75% o’r tanwydd wedi’i dynnu o adweithyddion Wylfa
Cyrraedd carreg filltir allweddol o ran lleihau perygl ar Safle Wylfa Magnox ar Ynys Môn, gyda thri chwarter y tanwydd niwclear sydd wedi’i ddefnyddio bellach wedi’i dynnu o’i ddau adweithydd.

Magnox Managing Director Tony Moore shaking Adrian Owen, Wylfa Transport Manager’s, hand.
Mae blaenoriaeth safle Wylfa o gael gwared ar elfennau tanwydd o adweithyddion mwyaf pwerus yn y byd Magnox, a’u cludo i Sellafield i gael eu hailbrosesu wedi symud ymlaen yn dda yn ystod y flwyddyn, er mwyn cyrraedd y garreg filltir newydd hon.
Dywedodd Stuart Law, Cyfarwyddwr y Safle:
Ar ddechrau’r broses o dynnu tanwydd, roedd bron i 90,000 o elfennau tanwydd yn yr adweithyddion. Rydyn ni bellach i lawr i 33,800 ac rydyn ni wedi gwneud yn well nag erioed drwy dynnu 1,000 o elfennau tanwydd bob wythnos ac anfon saith fflasg mewn un wythnos. Mae hyn diolch i’r tîm medrus iawn sy’n gweithio’n ddi-baid i gefnogi nod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear o lanhau’r hyn sy’n weddill o ddyddiau cynharaf diwydiant niwclear y DU.
Mae’n cymryd 24 awr i lenwi fflasg â thua 150 o elfennau tanwydd niwclear sydd wedi cael eu defnyddio. Yna, mae’r fflasg yn cael ei lanhau mewn peiriant golchi mawr, ac mae’n cael ei wirio’n drylwyr i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn cydymffurfio er mwyn cael ei gludo ymlaen i Sellafield. Erbyn hyn mae yna lai na 200 o fflasgiau tanwydd i fynd nes bydd un o raglenni niwclear a lleihau perygl mwyaf y DU yn dod i ben.
Dywedodd Tim Dunham, Pennaeth Gweithrediadau Niwclear Magnox:
Mae’r safle’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni’r nod o fod heb danwydd yn 2019. Rwy’n hynod falch o ba mor galed mae pawb wedi bod yn gweithio er mwyn cyflawni hyn.
Unwaith y bydd yr adweithyddion yn wag, ac y bydd yr holl elfennau tanwydd wedi cael eu hanfon i Sellafield, bydd dros 99 y cant o beryglon radiolegol y safle wedi cael eu tynnu. Ar ôl gorffen y gwaith tynnu tanwydd a’r gwiriadau a fydd yn digwydd ar ôl hynny, bydd y safle’n cyrraedd ei gam paratoadau Gofal a Chynnal a Chadw, sy’n canolbwyntio ar dynnu peiriannau o adeiladau a chael gafael ar unrhyw wastraff, a’i drin a’i brosesu.
Tony Moore, Rheolwr Gyfarwyddwr Magnox yn ysgwyd llaw Adrian Owen, Rheolwr Trafnidiaeth Wylfa

Wylfa flask crane