Datganiad i'r wasg

Wylfa’n parhau i gynhyrchu yn newyddion gwych i’r economi leol, medd Cheryl Gillan

Mae’r cyhoeddiad y bydd Gorsaf Bŵer Wylfa yn parhau i gynhyrchu trydan am hyd at ddwy flynedd ychwanegol y tu hwnt i fis Rhagfyr 2010 yn newyddion…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r cyhoeddiad y bydd Gorsaf Bŵer Wylfa yn parhau i gynhyrchu trydan am hyd at ddwy flynedd ychwanegol y tu hwnt i fis Rhagfyr 2010 yn newyddion da i Ynys Mon ac i economi Gogledd Cymru, medd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Disgwyliwyd y byddai Wylfa, sy’n eiddo i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), yn cau ddiwedd eleni, ond yn awr bydd yn dal ati i gynhyrchu am gyfnod hwy.  Bydd y refeniw ychwanegol a gynhyrchir gan yr orsaf bŵer yn cael ei ddefnyddio i helpu i ariannu’r gwaith datgomisiynu.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, dywedodd Mrs Gillan:   ”Mae hyn yn newyddion da i Ynys Mon ac i Ogledd Cymru. Mae Wylfa yn chwarae rhan allweddol yn yr economi leol, a bydd y cyhoeddiad heddiw yn hwb gwych i’r gweithlu.

“Bydd y penderfyniad i barhau i gynhyrchu trydan carbon isel yn y safle hefyd yn gwneud cyfraniad enfawr at waith datgomisiynu yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Rwy’n gefnogol iawn i Wylfa, fel y bum erioed. Pan ymwelais a’r safle’n ddiweddar, cefais fy mhlesio’n arw gan frwdfrydedd y staff a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru ac AS Gorllewin Clwyd:  “Mae’r newyddion heddiw yn newyddion ardderchog i Ynys Mon ac i Ogledd Cymru.  Mae hefyd yn cynnig sicrwydd i’r gweithlu a gyflogir yn Wylfa.  Rwy’n siŵr y bydd y penderfyniad yn gysur mawr iddynt.  Mae gan Wylfa rol allweddol i’w chwarae yn yr economi leol, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn sicrhau y bydd yn parhau i wneud hynny.”

Yn ol Dr Sara Johnston, Cyfarwyddwr Rhaglen Awdurdod Datgomisiynu Niwclear Magnox: “Mae’r cyhoeddiad y bydd Wylfa yn parhau i gynhyrchu yn newyddion rhagorol, gan y bydd yn sicrhau refeniw ychwanegol sylweddol gan un o asedau gwerthfawr yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Bydd yr incwm a gynhyrchir dros y cyfnod estynedig yn ein cynorthwyo gyda’r gwaith clirio. Hoffwn ddiolch i Magnox North am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud i helpu i wireddu hyn.”

Cyhoeddwyd ar 13 October 2010