Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog: Damwain ym Mhwll Glo Gleision
Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Cheryl Gillan): Ar ddydd Iau 17 Medi, cwympodd wal gynnal a oedd yn dal corff o ddŵr yn ol yng nglofa ddrifft y …

Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Cheryl Gillan): Ar ddydd Iau 17 Medi, cwympodd wal gynnal a oedd yn dal corff o ddŵr yn ol yng nglofa ddrifft y Tarenni Gleision ger Pontardawe, yng Nghwm Tawe. O’r saith dyn a oedd yn gweithio yn y lofa, llwyddodd tri i ddianc, ond bu farw’r pedwar arall. Y pedwar glowr wedi’u dal yn y lofa oedd Charles Breslin, 62; David Powell, 50; a Garry Jenkins, 39, o Gwm Tawe; a Phillip Hill, 45, o Gastell-nedd.
Mae’n gyfnod caled iawn i deuluoedd a ffrindiau’r rheini a gollodd eu bywydau, ac rwy’n cydymdeimlo’n ddwys a nhw. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i ymdrechion y gymuned gyfan a’r mudiadau, gan gynnwys y Groes Goch a Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched, a fu’n gefn i bawb yn ystod diwrnodau anodd iawn.
Bu i’r gwasanaethau brys a’r gweithwyr achub o fwyngloddfeydd a oedd yn rhan o’r tim chwilio ac achub wneud eu gwaith dan amgylchiadau hynod o anodd a pheryglus. Mae ein dyled yn fawr iddynt am eu hymroddiad diflino ac am fod mor benderfynol.
Bu i Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl Swyddfa’r Cabinet ddarparu cyd-drefniant llwyr yn y cyfnod ar ol y ddamwain, gan sicrhau bod pob rhan o’r Llywodraeth yr oedd ganddi rol i’w chwarae yn cael gwybod am y sefyllfa ar lawr gwlad, ac am unrhyw gamau gweithredu yr oedd angen eu cymryd yn lleol ac yn ganolog. Gwnaethom weithio’n agos a Llywodraeth Cymru yn ystod camau cyntaf yr ymgais i achub y glowyr. Roedd y Gwir Anrhydeddus Aelod dros Gastell-nedd yn bresennol wrth i’r sefyllfa ddatblygu, a bu fy swyddfa’n gweithio’n agos ag ef yn y cyfnod ar ol y ddamwain.
Mae cangen De Cymru Undeb Cenedlaethol y Mwyngloddwyr wedi sefydlu Cronfa Apel Glowyr Cwm Tawe fel ymddiriedolaeth i weinyddu’r rhoddion sy’n cael eu gwneud i gefnogi teuluoedd y rheini y mae’r trychineb wedi effeithio arnynt. Mae Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru wedi cytuno i gael ei benodi yn Noddwr Brenhinol y Gronfa. Gweithiodd Swyddfa Cymru gyda’r Comisiwn Elusennau i gynorthwyo’r Gronfa i ennill statws elusen, a gadarnhawyd ar 26 Medi. Hyd at y pwynt hwn, mae Swyddfa Cymru wedi cytuno i ad-dalu’r Gronfa Apel am y cyllid nad yw wedi’i gael gan gyfraniadau Cymorth Rhodd wrth iddi geisio statws elusen.