Stori newyddion

Tystio gweithredoedd

Egluro ein hymarfer o ran y broses ardystio lle y ceir llofnodion lluosog.

Diweddarwyd adran 2.1.2 o Cyflawni gweithredoedd (CY8) yn ddiweddar er mwyn atgoffa cwsmeriaid, lle bo dau neu ragor o bobl yn cyflawni gweithred fel parti, y gall yr un tyst dystio pob llofnod unigol, ond rhaid ardystio pob llofnod ar wahân.

Mae hyn yn wir oni bai ei fod yn gwbl glir trwy eiriad penodol ar wyneb yr ardystiad bod y tyst yn tystio’r ddau lofnod neu bob llofnod ym mhresenoldeb y llofnodwyr a enwir.

Nid newid i’n hymarfer yw hwn ond eglurhad a chymhwysiad o’r gyfraith berthnasol. Rhaid iddi fod yn glir i’r holl lofnodion gael eu hardystio ar yr un pryd, ac i’r holl lofnodwyr feddu ar y bwriad angenrheidiol i gyflawni’r offeryn fel eu gweithred, er mwyn bodloni gofynion adrannau 1(2) ac 1(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 a rheol 206 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Byddwn yn anfon ymholiad pan mai un ardystiad yn unig sydd gan weithred ac nad yw’n glir mai ar gyfer yr holl lofnodion y mae. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i’r weithred gael ei newid i ddangos ardystiad ar wahân neu i’r ardystiad nodi’n glir bod un tyst yn ardystio’r holl lofnodion ym mhresenoldeb y llofnodwyr a enwir.

Gweithredoedd a gwblheir cyn 18 Ionawr

Fel y nodwyd eisoes, nid newid ymarfer yw hyn. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd yn ymddangos felly o bosibl, ac rydym yn ymwybodol y gall edrych yn anghyson â’r hyn rydym wedi ei dderbyn yn flaenorol. Rydym yn ymwybodol hefyd y bydd hyn, efallai, yn effeithio ar rai ceisiadau cofrestru sydd eisoes yn cael eu paratoi.

Felly, am y rhesymau hynny, ni fyddwn yn anfon ymholiad ar y pwynt hwn ar gyfer gweithredoedd a gwblheir cyn dydd Llun 18 Ionawr 2016. Fodd bynnag, lle y bydd cwblhau yn digwydd ar neu ar ôl y dyddiad hwn, caiff ymholiad ei anfon lle y mae’n ymddangos bod yr ardystiad yn anghywir.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2015