Tynnu ein hen rifau ffôn cefnogaeth i gwsmeriaid yn ôl
O 28 Chwefror, byddwn yn tynnu rhifau ffôn cefnogaeth i gwsmeriaid '08' y Gofrestrfa Tir yn ôl.

Ym mis Awst cyflwynwyd rhifau 0300 newydd ar gyfer rhai o’n llinellau gwasanaeth. Isod mae rhestr gyflawn o’r rhifau newydd:
- cefnogaeth i gwsmeriaid (gwasanaeth Cymraeg): 0300 006 0422
- cefnogaeth i gwsmeriaid (gwasanaeth Saesneg): 0300 006 0411
- ymholiadau ynghylch methdaliad: 0300 006 6107
- Tîm Gwasanaethau Masnachol: 0300 006 0478
Cadwyd yr hen rifau’n agored am chwe mis a nawr rydym wedi’u tynnu’n ôl. Bydd neges ar yr hen rifau am 3 mis yn hysbysu cwsmeriaid am y rhif newydd i’w ffonio.
Gallwch gysylltu â’n cefnogaeth i gwsmeriaid trwy ein ffurflen ar-lein a’n fforwm cymortho hyd. Yn ogystal, mae cyfarwyddyd ar GOV.UK ar gyfer cwsmeriaid ac aelodau’r cyhoedd.
Rydym yn falch o allu gwneud y newid hwn i gydymffurfio’n harferion â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a gweithredu ar adborth a gawsom gan gwsmeriaid.