Stori newyddion

Her beicio Gweinidog Swyddfa Cymru

Alun Cairns: "Mae Prostate Cymru yn achos da iawn felly roeddwn yn benderfynol o groesi'r llinell derfyn"

Wales Office Minister Alun Cairns pictured crossing the finishing line

Benwythnos diwethaf, cymerodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, ran yn un o’r heriau mwy anarferol yn ei yrfa - taith feiciau elusennol anodd 100 milltir o hyd!

Ymunodd y Gweinidog â miloedd o feicwyr a oedd yn cymryd rhan yn nhaith Feiciau Prudential 100 rhwng Llundain a Surrey 100 gan ddechrau’n brydlon am 6am ar ddydd Sul ym Marc Olympaidd y Frenhines Elizabeth yn nwyrain Llundain. Cwblhaodd y daith mewn 6 awr ac 20 munud. Roedd y grŵp yn dilyn y llwybr a ddaeth yn enwog drwy’r digwyddiadau ffordd a threialon amser yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, gan fynd heibio Canary Wharf a thrwy Ddinas Llundain cyn troi am y gorllewin drwy Hammersmith ac ar draws Afon Tafwys yn Chiswick. Aeth y beicwyr cyn belled â Dorking a Boxhill cyn troi am y gogledd i orffen ar y Mall.

Roedd Gweinidog Swyddfa Cymru yn codi arian i Prostate Cymru a chafodd gyfle i bedlo heibio ei swyddfa - Tŷ Gwydyr yn Whitehall - fel rhan o lwybr y daith hir.

Mae Alun Cairns yn cyfaddef ei hun ei fod wrth ei fodd yn cadw’n heini ond roedd yn teimlo ychydig yn nerfus am y daith ddydd Sul.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’r daith hon yn cyfateb i farathon Llundain yn y byd beicio. Er fy mod yn gyfarwydd â rasys marathon, rydw i wedi arfer eu rhedeg yn hytrach na’u gwneud ar ddwy olwyn!

Rydw i wedi gwneud teithiau beic hir yn y gorffennol ond dyma’r daith fawr gyntaf i mi ei gwneud ar ddwy olwyn mewn blwyddyn. Mae Prostate Cymru yn achos da iawn felly roeddwn yn benderfynol o groesi’r llinell derfyn.

Roedd y diwrnod yn wych ac roeddwn wrth fy modd o fod yn rhan ohono.

Cymerodd oddeutu 25,000 o bobl ran yn y daith 100 milltir ddydd Sul. Ymhlith y rhai a ymunodd â Gweinidog Swyddfa Cymru oedd beicwyr adnabyddus gan gynnwys Joanna Rowsell a Laura Trott a enillodd fedalau am feicio yn y Gemau Olympaidd 2012; cyn gapten rygbi undeb cenedlaethol Cymru Colin Charvis; cyn athletwyr Olympaidd Jonathan Edwards a Sally Gunnell a chyflwynydd newyddion y BBC Sophie Raworth.

Nodiadau i olygyddion.

Cyhoeddwyd ar 3 August 2015