Datganiad i'r wasg

Dathlu Llwyddiant Cwmni Wisgi Cymreig

Heddiw (2 Mawrth 2012), wrth i ddathliadau Wythnos Twristiaeth Cymru barhau, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a chwmni ffyniannus ym…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (2 Mawrth 2012), wrth i ddathliadau Wythnos Twristiaeth Cymru barhau, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a chwmni ffyniannus ym Mhenderyn; cwmni sy’n dangos yr uchelgais sy’n helpu i yrru’r sectorau twristiaeth a busnes yn eu blaenau yng Nghymru.** **

Mae Distyllfa Penderyn y Cwmni Wisgi Cymreig, wrth odre Bannau Brycheiniog, wedi sefydlu ei hun fel gwir atyniad i dwristiaid yng Nghymru, yn ogystal a fel un o allforion busnes mwyaf llwyddiannus y wlad.   

Heddiw, cafodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan, ei thywys ar daith o amgylch y ddistyllfa a chyfarfod a’r rheolwr gyfarwyddwr Stephen Davies, a esboniodd sut y mae parhau i fwrw ymlaen ag elfen allforio’r busnes yn rhan bwysig iawn o strategaeth Penderyn i’r dyfodol.

Yn dilyn ei hymweliadau dywedodd Mrs Gillan:

“Mae 2012 yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol o ran twristiaeth a busnes yng Nghymru. 

“Yn 2010, croesawodd Cymru 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos, gan gyfrannu bron i £1.8 biliwn at yr economi. Gydag atyniadau megis Distyllfa Penderyn, sy’n hyfrydwch pur i dwristiaid, ac yn fusnes sy’n ffynnu, mae gennym yng Nghymru amrediad llawn o gyrchfannau i dwristiaid a fydd yn sicr o greu argraff ar ymwelwyr o’r wlad hon a thu hwnt.”      

“Bydd dathliadau Jiwbili Diemwnt Ei Mawrhydi’r Frenhines a’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni yn hoelio sylw rhyngwladol nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen ar y DU ac yn sicrhau bod ymwelwyr a’r DU yn nodi ymweliad a Chymru yn eu dyddiaduron yn ystod eu cyfnod yma.”

Dywedodd Mr Davies:

 ”Mae Penderyn yn fusnes sy’n ychwanegu gwerth yma yn y Cymoedd, o ran cynhyrchu, ac yn fwy diweddar, o ran y busnes twristiaeth. Mae gwerthiant Wisgi Penderyn wedi cynyddu 17% y flwyddyn ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae’r cwmni nawr yn datblygu prosiect i ehangu’r ddistyllfa i wneud yn siŵr y gall y busnes barhau i dyfu.  

“Rydyn ni’n allforio i dros 20 o wahanol wledydd ac rydyn ni’n canolbwyntio ein hallforio ar Ffrainc a’r Almaen ar hyn o bryd. Penderyn 41 yw ein wisgi brag sengl sy’n gwerthu orau yn Ffrainc ar hyn o bryd.

 ”Rydyn ni’n falch bod Penderyn yn cael ei gydnabod fel brand o’r radd flaenaf ac o fri o Gymru, gyda’i ddyluniad brand cyfoes. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth rydyn ni’n ei chael gan bobl Cymru, ac rydyn ni’n diolch i Ysgrifennydd Cymru am ddangos ei chefnogaeth i’n brand a’n busnes drwy ymweld a ni.”

Cyhoeddwyd ar 2 March 2012