Datganiad i'r wasg

Milwyr o Gymru yn anfon negeseuon at eu hanwyliaid ar gyfer y Nadolig

Ysgrifennydd Cymru: Rydyn ni yng Nghymru yn ddiolchgar iawn i chi am yr hyn rydych yn ei aberthu

Mae milwyr sydd wedi’u lleoli dramor wedi bod yn anfon negeseuon Nadolig at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Mae miloedd o weithwyr Lluoedd Arfog y DU, a llawer ohonynt o Gymru, yn gweithio ym mhedwar ban byd yn ystod y Nadolig eleni er mwyn cadw Prydain yn ddiogel gartref a thramor.

Mae cannoedd o filwyr o Fataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol yn treulio’r Nadolig yn Estonia, lle maen nhw’n adnewyddu ymrwymiad y DU i’n cynghreiriaid NATO yn Ewrop ac maen nhw’n barod i amddiffyn y wlad rhag yr ymosodiadau posibl mae’n eu hwynebu.

Ar hyn o bryd, mae’r Cymry Brenhinol yn arwain y cadlu rhyngwladol ‘Enhanced Forward Presence’, sy’n cael ei gefnogi gan unedau eraill o’r Fyddin Brydeinig.

Iddyn nhw, bydd y Nadolig yn cynnwys sesiwn hyfforddi gorfforol, gwasanaeth crefyddol a chinio Nadolig, a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw rannu traddodiad cyfarwydd â phartneriaid NATO a gwesteion o Estonia.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i’n Lluoedd Arfog sy’n gweithio ar brosiectau pwysig ym mhob cwr o’r byd, ar yr adeg maen nhw’n hiraethu fwyaf am eu teuluoedd, eu hanwyliaid a’u ffrindiau.

Mae modd gweld ôl troed milwrol Cymru ym mhob cwr o’r byd, a dydy dyletswydd y milwyr byth yn dod i ben. Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch a rhoi gwybod i chi ein bod ni yng Nghymru yn ddiolchgar iawn am eich aberth drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond adeg y Nadolig.

Dywedodd y Swyddog Gorchymyn, Lefftenant Owain Luke:

Er bod y Nadolig yn gyfnod i’w dreulio gyda’r teulu fel arfer, mae milwyr y Cadlu eFP yn deall bod ganddyn nhw ran hanfodol i’w chwarae yn y gwaith o amddiffyn Estonia.

Rydw i’n falch iawn o ba mor dda maen nhw wedi perfformio hyd yn hyn ac fe fyddwn yn gwneud ymdrech arbennig i wneud yn siŵr ein bod yn mwynhau cymaint o draddodiadau’r Nadolig â phosibl yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae trigolion Estonia eisoes wedi’n helpu ni yma – mae staff y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi prynu dwy goeden Nadolig ar gyfer y Cadlu, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am hynny.

Mae milwyr y DU yn cymryd rhan mewn 25 o weithrediadau mewn dros 30 o leoliadau i gyd. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 1,000 o bobl yn gweithio i ymladd yn erbyn Daesh a hyfforddi’r lluoedd diogelwch lleol o leoliadau yn Irac a’r Dwyrain Canol yn fwy helaeth, yn ogystal ag RAG Akrotiri, Cyprus. Yn y Caribî, bydd RFA Mounts Bay yn ymuno â llongau eraill y Llynges Frenhinol sydd ar waith yn ystod cyfnod y Nadolig.

Ers 1969, mae llong danfor sy’n cynnwys arf niwclear ataliol y DU wedi bod ar wyliadwraeth bob munud o bob dydd, a’r un yw’r stori’r Nadolig hwn.

Yn ne Cefnfor yr Iwerydd, mae oddeutu 1,000 o staff wedi’u lleoli ar Ynysoedd Falkland. Yn Affganistan, mae milwyr o’r Fyddin a Gwasanaethau eraill yn hyfforddi Lluoedd Diogelwch Gwladol Affganistan.

Mae dros 5,000 o longwyr, môr-filwyr, milwyr ac awyrenwyr yn gwasanaethu ym mhob cwr o’r byd, mewn lleoliadau amrywiol – o Dde Swdan a Somalia, lle mae’n nhw’n cynnal gwaith peirianyddol hanfodol, i Wlad Pwyl ac Estonia, lle maen nhw’n darparu cymorth i gynghreiriaid NATO.

Ffiwsilwr Ryan Jenkins, 26, Swydd Lincoln, y Cymry Brenhinol

Er ein bod ni wedi gorfod gweithio’n galed yma yn Estonia, yn enwedig wrth geisio ymdopi ag amgylchedd newydd, rydw i wedi mwynhau’r her. Dydy hi byth yn braf bod oddi wrth fy nheulu (yn enwedig adeg y Nadolig), ond mae criw da o bobl yma a dwi’n manteisio i’r eithaf ar fod mewn gwlad newydd.

Ffiwsilwr David Hagart, 18, Y Fenni, y Cymry Brenhinol,

Rydw i yn Estonia ar hyn o bryd a dyma’r tro cyntaf i mi fod ar leoliad ers bod yn y fyddin. Mae’n brofiad newydd a hwn fydd y Nadolig cyntaf i mi ei drwulio oddi wrth fy nghartref a fy nheulu. Rydw i’n eu colli nhw’n fawr ac yn edrych ymlaen i’w gweld nhw pan fydda i’n mynd yn ôl fis Chwefror.

Ychwanegodd Is-Gorpral Sheldon, y Cymry Brenhinol:

Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd da i chi i gyd - tad-cu, teulu a ffrindiau. Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld chi dros gyfnod y Nadolig - yn yfed ac yn bwyta pethau melys!

Dw i wedi mwynhau fy amser allan yn Estonia, yn dysgu ac yn cymysgu gyda phobl leol. Dw i’n dod nôl am dri mis i wneud cwrs ond bydda i nôl yn Estonia ym mis Ebrill i ddal lan gyda gwaith. Hwyl am y tro.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 22 December 2017