Datganiad i'r wasg

Hwb ariannol gwerth £300m i orsafoedd yng Nghymru i wella mynediad i bobl anabl

Bydd un ar ddeg o orsafoedd yng Nghymru yn elwa o gyfran o'r cyllid

  • Bydd 73 o orsafoedd yn elwa ar gyfran o’r cyllid Mynediad i Bawb gwerth £300m, ac mae 11 o’r gorsafoedd yng Nghymru.
  • Dyma’r cam diweddaraf tuag at sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth cwbl gynhwysol i’w gwneud hi’n haws i bobl anabl ddefnyddio mwy ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
  • Nawr, mae 75% o bob taith ar y rheilffyrdd yn digwydd drwy orsafoedd heb stepiau.

Bydd pobl anabl sy’n teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn elwa ar fynediad gwell at orsafoedd o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth £300m gan y llywodraeth.

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Nusrat Ghani, wedi cyhoeddi y bydd teithiau’n dod yn fwy hygyrch ledled Prydain dros y pum mlynedd nesaf wrth i waith diweddaru, gan gynnwys troedffyrdd a lifftiau, wneud pethau’n haws i bobl anabl deithio ar rwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig.

Bydd sawl gorsaf arall hefyd yn cael gwelliannau ar raddfa lai, fel palmant botymog ar ymylon platfformau, neu gownteri tocynnau addasadwy, er mwyn galluogi teithwyr anabl i deithio’n hyderus.

Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud mewn 73 o orsafoedd, a byddant yn cael eu hariannu fel rhan o Strategaeth Cludiant Cynhwysol a gyhoeddwyd y llynedd gan yr Adran Drafnidiaeth. Bydd yr arian hefyd o fudd i unigolion sydd â chyflyrau iechyd, pobl hŷn sydd â namau, yn ogystal â phobl sy’n teithio gyda phlant, bagiau trwm neu fagiau siopa.

Bydd y Gweinidog Hygyrchedd Trafnidiaeth, Nusrat Ghani, yn dweud heddiw:

Mae trafnidiaeth yn hollbwysig i gysylltu pobl gyda’u gwaith, eu ffrindiau a’u teuluoedd, ond hefyd er mwyn iddynt allu mwynhau ymweld â safleoedd diwylliannol, hanesyddol a naturiol arbennig ledled y DU.

Rydym ni eisiau i’r 13.9 miliwn o bobl anabl ym Mhrydain allu teithio’n annibynnol, ac felly rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r gwelliannau hyn i’r rhwydwaith rheilffyrdd.

Yn ystod y bum mlynedd nesaf, bydd y gorsafoedd hygyrch hyn yn agor llwybrau ledled y wlad, a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein nod o gael sector trafnidiaeth sy’n wirioneddol hygyrch.

Yn dilyn enwebiadau gan y diwydiant rheilffyrdd, dewiswyd gorsafoedd yn seiliedig ar amryw o feini prawf, gan gynnwys nifer y bobl sydd ag anableddau yn yr ardal, gwerth am arian, a ffactorau lleol fel pellter yr orsaf o ysbyty. Dewiswyd y gorsafoedd i sicrhau gwasgariad daearyddol teg ar draws y wlad.

Cafodd y rhaglen Mynediad i Bawb ei lansio yn 2006, a hyd yma mae wedi darparu mwy na 200 o lwybrau hygyrch i rai gorsafoedd.

Mae 1,500 gorsaf arall wedi cael gwelliannau o faint llai, megis toiledau hygyrch a thwmpathau ar y platfform er mwyn lleihau’r pellter camu wrth fynd ar y trên i helpu unigolion sydd â nam ar y golwg neu nam ar y clyw.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’n rhaid i gludiant sy’n anhygyrch fod yn rhan o’r gorffennol. Dyna pam mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn 11 gorsaf yng Nghymru, i sicrhau bod llawer mwy o deithwyr yn teimlo eu bod yn gallu teithio i lefydd yn annibynnol.

Mae’r gwelliannau hyn yn unol â’n hymrwymiad i adeiladu rheilffordd sy’n fwy, ac sy’n well i Gymru, gan ddarparu teithiau gwell i bobl ar y trenau newydd, mwyaf datblygedig.

Mae hyn yn gam ymlaen tuag at y targed a nodir yn y Strategaeth Cludiant Cynhwysol i greu system drafnidiaeth sy’n rhoi mynediad cyfartal i bawb erbyn 2030, ac i wneud teithio’n haws i bobl anabl. Mae system drafnidiaeth sy’n wirioneddol gynhwysol – gan gynnwys dyluniad pob technoleg teithio yn y dyfodol – yn ganolog i nod y Llywodraeth o sicrhau bod y wlad yn gweithio er lles pawb, ac mae’n rhan hanfodol o Her Fawr Symudedd, a fydd yn rhoi’r DU ar flaen y gad o ran arloesedd trafnidiaeth.

Dywedodd Keith Richards, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl:

Mae’r rhaglen Mynediad i Bawb eisoes wedi cyflawni gwelliannau sylweddol o ran rhoi mynediad i bobl anabl deithio ar y rheilffyrdd dros y 13 mlynedd ddiwethaf. Mae’n hanfodol parhau i adeiladu ar hynny.

Croesawir y cyhoeddiad hwn, ac mae’n rhaid iddo fynd law yn llaw â gwybodaeth glir ac ymarferol, i sicrhau bod pobl anabl yn ymwybodol o ba welliannau sydd wedi cael eu gwneud, ac o ganlyniad, yn ymwybodol bod mwy o ddewisiadau teithio yn bosib iddynt bellach.

Rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth i gyflawni ymrwymiad i gyflymu gwelliannau, i dargedu’r cyllid yn effeithiol, ac i fonitro ac asesu canlyniadau.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Dyma enghreifftiau blaenorol o waith diweddaru:

  • Mae gorsaf Radur wedi cael tri lifft a phont droed newydd i helpu teithwyr i symud o gwmpas yn haws.
  • Mae gwelliannau wedi’u gwneud i’r grisiau yng ngorsaf Castell-nedd ac i’r ardal giatiau tocynnau i’w gwneud yn fwy hygyrch.
  • Gellir gweld enghreifftiau pellach yma

Disgwylir i’r holl waith yn y gorsafoedd gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024 fan bellaf.

Y gorsafoedd a fydd yn elwa o’r cyllid yng Nghymru fydd:

  • Y Fenni
  • Caerffili
  • Cwmbrân
  • Y Fflint
  • Shotton
  • Dinbych-y-pysgod
  • Y Barri (Tref)
  • Cathays
  • Llanelli
  • Trefforest
  • Tregatwg
Cyhoeddwyd ar 4 April 2019