Datganiad i'r wasg

Annog BBaCh Cymru i fanteisio ar gyfle cyllid allforio newydd a gefnogir gan Lywodraeth y DU

Alun Cairns i fynychu 19eg Gwobrau Fast Growth 50 yng Nghaerdydd

Fast Growth 50

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar BBaCh Cymru i fanteisio ar gyllid newydd a gefnogir gan Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau mynediad i farchnadoedd twf byd-eang pan fydd yn mynychu gwobrau Fast Growth 50 heno (20 Hydref 2017).

Bydd Mr Cairns yn cyflwyno’r brif araith yn 19eg cinio gala Fast Growth 50 yng Nghaerdydd, lle bydd goreuon y byd entrepreneuriaeth yng Nghymru a’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru’n cael eu harddangos.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn tynnu sylw at bartneriaeth Cyllid Allforio newydd y DU (UKEF) phum banc ar y Stryd Fawr, er mwyn galluogi BBaCh yng Nghymru i gael cefnogaeth yn uniongyrchol gan eu banciau mewn eiliadau, heb fod angen gwneud cais ar wahân.

Y gobaith yw y bydd y gronfa’n helpu busnesau fel y rhai ar y rhestr Fast Growth 50 i fod yn rhan o gontractau allforio mawr ym mhob cwr o’r byd.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae’r 551 o gwmnïau sydd wedi bod ar restri Fast Growth 50 hyd yma wedi creu mwy na 34,000 o swyddi a chreu amcangyfrif o £18 biliwn ar gyfer economi Cymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae seremoni Fast Growth 50 yn ddyddiad pwysig ar galendr busnes Cymru. Mae’n gyfle i’w groesawu i adlewyrchu ar y flwyddyn sydd wedi mynd heibio ac i ddathlu’r llwyddiannau niferus y mae busnesau wedi gweithio’n ddiflino i’w creu.

Mae cymaint o’r cwmnïau sydd wedi bod ar restri FG50 dros y blynyddoedd yn darparu gwasanaethau ac yn allforio eu cynhyrchion i bob cwr o’r byd erbyn hyn.

Mae Llywodraeth y DU eisiau gwneud mwy i sicrhau bod busnesau Cymru’n manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd.

Mae cefnogaeth Cyllid Allforio’r DU (UKEF) yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Bydd rhyddhau potensial cwmnïau fel y rhai y byddwn yn eu dathlu heno’n allweddol i sicrhau bod economi Cymru’n parhau i ffynnu.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Ar hyn o bryd, mae mwy na 3,800 o fusnesau’n allforio yng Nghymru, gyda chyfanswm eu gwerth yn £13 biliwn yn chwarter cyntaf 2017. Mae Cymru hefyd yn lle deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi, ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddiad tramor uniongyrchol wedi digwydd yng Nghymru, gan greu 2,581 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 arall.

Yn ddiweddar mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at fwy na 26,000 o fusnesau Cymru a nodwyd fel allforwyr posib, gan gynnwys copi o Ganllaw Allforio Cymru. Mae’r canllaw penodol i Gymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

Gallwch ddarllen y canllaw ar-lein yma.

NODIADAU I OLYGYDDION:

  • Am ragor o wybodaeth am wobrau Fast Growth 50, ewch i: www.fastgrowth50.com

  • Mae posib darllen mwy am gronfa Cyllid Allforio’r DU yma yma

Cyhoeddwyd ar 20 October 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 October 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.