Busnesau Bychain Cymru yn derbyn hwb fawr drwy gynllun band eang y Llywodraeth
Alun Cairns: "Mae Cymru yn gartref i rai cwmnïau cyffrous ac arloesol, sy’n cipio’r cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn ei ddarparu"

- Mae cynllun y Llywodraeth wedi helpu creu mwy o swyddi a chynyddu elw i BBaChau
- Cyflenwyr bychain sydd wedi elwa fwyaf o’r cynllun
- Mae cyflenwyr yn awr yn hepgor cost gosod o ganlyniad i’r cynllun
Mae mwy na 55,000 o fusnesau bychain a chanolig (BBaChau), sy’n cyflogi hyd at un filiwn o bobl drwy’r DU, wedi manteisio ar gynllun y Llywodraeth i hybu eu cysylltedd band eang, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw. Mae 5% o’r busnesau hyn wedi’u lleoli yng Nghymru, gyda thros 2,800 o fusnesau wedi derbyn y cynnig.
Roedd Cynllun Talebau Cysylltiad Band Eang y Llywodraeth wedi cael ei gynllunio er mwyn cael BBaChau i symud i farchnad ddigidol gyflymach a chael eu cysylltu â band eang cyflym iawn.
Y mae’r fenter – sy’n awr wedi dyrannu’r cyfan o’r cyllid o £40m a oedd ar gael ers Ebrill 2015 – wedi rhoi cyfle i fusnesau ymgeisio am grantiau o hyd at £3,000 yr un er mwyn cynnwys y costau o osod band eang cyflymach a gwell. Y mae’r cynllun, sy’n llwyddiant ysgubol, wedi helpu amrywiaeth o fusnesau, yn cynnwys penseiri, gwerthwyr tai, mecanyddion, cydlynwyr digwyddiadau, caffis, dylunwyr graffig ac arlwywyr.
Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog Economi Ddigidol:
Mae ein Cynllun Talebau Cysylltiad Band Eang wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae mwy na 55,000 o fusnesau bychain drwy’r DU wedi manteisio ar y cyfle, mae llawer ohonyn nhw eisoes yn gweld hwb sylweddol i’w busnesau o ganlyniad i gyflymder band eang gwell.
Rydym yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn y DU, yn cynorthwyo dinasoedd i greu swyddi newydd ac yn denu buddsoddiad er mwyn gwneud y DU yn gyrchfan fusnes ddymunol“.
Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Mae Cymru yn gartref i rai cwmnïau cyffrous ac arloesol, sy’n cipio’r cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn ei ddarparu.
Mae’r cynllun talebau band eang wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, yn galluogi dros 2,800 o fusnesau i fod un cam ar y blaen o’u cystadleuwyr.
Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Gymru er mwyn sbarduno twf, hybu economi Cymru a sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn gallu cael budd o’r chwyldro digidol.
Rhanbarth | Talebau a roddwyd |
---|---|
Yr Alban | 2,899 |
Cymru | 2,887 |
Gogledd Iwerddon | 2,411 |
Gogledd-orllewin Lloegr | 8,260 |
Gogledd-ddwyrain Lloegr | 1,721 |
Swydd Efrog a Humber | 7,377 |
Canolbarth Lloegr | 6,799 |
Llundain | 14,545 |
Dwyrain Lloegr | 1,459 |
De-ddwyrain Lloegr | 3,114 |
De-orllewin Lloegr | 3,630 |
Roedd busnesau yn gallu defnyddio eu taleb i gael cysylltiad band eang gan amrywiaeth eang o gyflenwyr. Roedd mwy na 800 o gyflenwyr yn cymryd rhan yn y cynllun ac roedd mwyafrif mawr (86 y cant) o werth y cynllun yn mynd i gyflenwyr bychain o gwmpas y DU. Roedd y Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd, sef y “tri mawr” – BT, Virgin Media a TalkTalk – yn gyfrifol am 14 y cant o gyfanswm gwerth y talebau yn unig.
Mae busnesau sy’n elwa o gysylltiad band eang a gafodd ei gyflawni gan y cynllun yn adrodd, ar gyfartaledd, am gynnydd o £1,300* y flwyddyn mewn elw, gydag un swydd newydd yn cael ei chreu am bob pedwar cysylltiad newydd. Y mae hyn yn golygu am bob £1 a fuddsoddwyd yn y cynllun gan Lywodraeth y DU, bydd mwy na £5 yn cael ei ddychwelyd i economi’r DU.
Mae’r buddion y mae busnesau bychain yn eu gweld o ganlyniad i gysylltiad cyflymach yn cynnwys:
- Tyfu a chael mynediad at farchnadoedd newydd drwy well cyfathrebu gyda chwsmeriaid a chyflenwyr.
- Mwy o ddiogelwch drwy storio data wrth gefn yn ddiogel.
- Mwy o gynhyrchedd a gwell gwasanaeth cwsmer drwy gyflymder lanwytho a lawrlwytho cyflymach.
- Mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gan weithwyr.
Tra bod y cynllun yn awr wedi dod i ben, mae’i lwyddiant wedi ysgogi’r farchnad, gyda rhai cyflenwyr yn cynnig cefnogaeth debyg yn awr drwy gynnig gosod a darparu cyfarpar yn rhad ac am ddim. Y mae hyn yn golygu fod y rhai hynny na wnaeth ymgeisio am dalebau Cysylltiad Band Eang y Llywodraeth gyda digon o amser i wneud cais am hwb band eang rhad ac am ddim neu’n rhatach ar gyfer eu busnesau.
Mae gwybodaeth bellach am fuddion y cynllun ar gael yn www.connectionvouchers.co.uk
Dinas | Nifer o Dalebau a roddwyd |
---|---|
Aberdeen | 367 |
Abertawe | 530 |
Belfast | 2,142 |
Birmingham | 3,273 |
Bournemouth | 901 |
Brighton a Hove | 1,185 |
Bryste | 2,222 |
Caerdydd | 2,083 |
Caeredin | 1,200 |
Caerefrog | 751 |
Caergrawnt | 826 |
Caerliwelydd | 52 |
Caerloyw | 178 |
Caerlŷr | 590 |
Casnewydd | 274 |
Chelmsford | 79 |
Coventry | 1,458 |
Derby | 445 |
Derry | 269 |
Dundee | 80 |
Exeter | 153 |
Glasgow | 902 |
Hull | 1,137 |
Inverness | 77 |
Ipswich | 246 |
Leeds | 4,738 |
Lerpwl | 1,844 |
Llundain | 14,545 |
Manceinion Fwyaf | 6,013 |
Middlesbrough | 247 |
Milton Keynes | 490 |
Newcastle | 1,376 |
Norwich | 85 |
Nottingham | 419 |
Perth | 133 |
Peterborough | 120 |
Plymouth | 110 |
Portsmouth | 315 |
Preston | 351 |
Reading | 93 |
Rhydychen | 590 |
Sheffield | 751 |
Southampton | 297 |
Southend-On-Sea | 103 |
Stirling | 140 |
Stoke | 219 |
Sunderland | 98 |
Swindon | 66 |
Trefi Caint | 144 |
Wolverhampton | 395 |
Cyfanswm | 55,102 |
- seiliedig ar arolwg o sampl o fusnesau gyda chysylltiadau’n bodoli am gyfnod o rhwng 3 a 9 mis.