Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Hanner Marathon y Byd yn rhoi Cymru ar fap chwaraeon y byd

Alun Cairns i ymgymryd â her y ras 13.1 milltir ar strydoedd Caerdydd

World Half Marathon

World Half Marathon

Mae Cymru unwaith yn rhagor yn dangos ei safon wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon bythgofiadwy, meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns heddiw wrth iddo estyn am ei esgidiau rhedeg ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF Prifysgol Caerdydd (Dydd Sadwrn 26 Mawrth 2016).

Bydd rhai o redwyr gorau’r byd, gan gynnwys pencampwr dwbl y byd a’r Gemau Olympaidd, Mo Farah, yn dod i brifddinas Cymru ar gyfer digwyddiad sy’n argoeli i fod yn un o’r digwyddiadau dygnwch mwyaf mawreddog y mae’r Deyrnas Unedig wedi eu cynnal yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, hefyd yn sefyll ar y llinell gychwyn yng Nghastell Caerdydd ochr yn ochr â phencampwr hanner marathon Cymru, Dewi Griffiths, sydd wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Athletau Prydain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd yn gweld Caerdydd unwaith eto yn gartref i ddigwyddiad chwaraeon mawr ac yn denu rhai o enwau proffil uchaf y gymuned athletau fyd-eang.

O Gwpan Rygbi’r Byd i Gyfres y Lludw, mae Caerdydd a Chymru gyfan yn parhau i ddangos i’r byd fod gennym ni’r profiad, y ddealltwriaeth a’r ysbryd priodol i groesawu achlysuron chwaraeon o’r radd flaenaf.

Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r miloedd o redwyr fydd yn cymryd rhan yn yr hanner marathon - i ddathlu’r ddinas hon, i godi arian at achos da - ac efallai rhedeg fy amser personol gorau wrth wneud hynny!

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Alun Cairns wedi cwblhau 4 Marathon Llundain gan godi arian i elusennau lleol ac ef oedd yr AS cyflymaf i gwblhau’r cwrs 26 milltir yn 2015. Bydd hefyd yn cystadlu ym Marathon Llundain eleni.

  • Ei amser personol gorau mewn hanner marathon yw 1 awr 39 munud, a 3 awr 34 munud mewn marathon llawn.

  • Bydd yn codi arian at Breast Cancer Now ac Elusen Tiwmor ar yr Ymennydd wrth redeg Marathon Llundain.

Cyhoeddwyd ar 24 March 2016