Stori newyddion

Bydd Ysgrifennydd Cymru’n defnyddio’r Cwestiwn a Argymhellwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn y Refferendwm

Cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y caiff y rhagarweiniad a’r cwestiwn diwygiedig a argymhellwyd gan y Comisiwn Etholiadol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y caiff y rhagarweiniad a’r cwestiwn diwygiedig a argymhellwyd gan y Comisiwn Etholiadol eu defnyddio yn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad.

Wrth groesawu’r gwaith a wnaethpwyd gan y Comisiwn Etholiadol, dywedodd Mrs Gillan fod Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, hefyd wedi cefnogi ei phenderfyniad i dderbyn y rhagarweiniad a’r cwestiwn a argymhellwyd gan y Comisiwn Etholiadol i’w defnyddio yn y refferendwm a gynhelir ar gais y Cynulliad.

Meddai Mrs Gillan: “Roedd dyletswydd statudol arnaf i ymgynghori a’r Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn a gaiff ei gynnwys yn y Gorchymyn refferendwm drafft. Cyfeiriais y cwestiwn a gynigwyd gan Fwrdd Prosiect Refferendwm Swyddfa Cymru at y Comisiwn Etholiadol ar 23 Mehefin 2010. 

“Cynhaliodd y Comisiwn asesiad trylwyr o’r rhagarweiniad a’r cwestiwn dros gyfnod o ddeng wythnos, yn cynnwys cynnal ymchwil ar y farn gyhoeddus, gwahodd a chasglu sylwadau gan bartion oedd a diddordeb, a cheisio cyngor ar y fersiynau Cymraeg a Saesneg.

“Croesawaf gyfraniad gwrthrychol ac annibynnol y Comisiwn Etholiadol at y broses.  Maent wedi awgrymu newidiadau sy’n rhoi sylw i’r lefel isel gyffredinol o ymwybyddiaeth sydd gan y cyhoedd o’r materion a’r termau sy’n ymwneud a datganoli a’r refferendwm a ddaeth i’r golwg yn ystod y treialon. Rydw i wedi trafod casgliadau’r adroddiad gyda Phrif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Brif Weinidog, a gyda’u cytundeb nhw, rydw i wedi penderfynu derbyn y rhagarweiniad a’r cwestiwn a argymhellwyd gan y Comisiwn.

“Mae’r Llywydd hefyd wedi datgan ei fod yn cytuno a phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i fabwysiadu’r cwestiwn a argymhellwyd gan y Comisiwn Etholiadol.

“Byddaf yn cyflwyno’r Gorchymyn drafft gerbron y Senedd cyn bo hir fel bo’r ddau Dŷ yn cael cyfle i’w ystyried, ac yn amodol ar y gweithdrefnau sydd ar ol i’w dilyn, fy mwriad o hyd yw cynnal y refferendwm yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf.”

__

Y rhagarweiniad a’r cwestiwn a gytunwyd ar gyfer y refferendwm:__

__

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd

Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:

  • amaethyddiaeth
  • yr amgylchedd
  • tai
  • addysg
  • iechyd
  • llywodraeth leol

Mae’r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhyw un o’r materion eraill hyn, mae’n rhaid i’r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio’r deddfau hyn neu beidio.

Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio ‘ydw’
Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio ‘nac ydw’
Bydd yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.

Cwestiwn

A ydych yn dymuno i’r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?

Ydw

Nac ydw

Cyhoeddwyd ar 9 September 2010