Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Vince Cable i ail gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes

Heddiw (29ain Mawrth), croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Vince Cable, Ysgrifennydd Busnes y DU i ail gyfarfod Grŵp Cynghori…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (29ain Mawrth), croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Vince Cable, Ysgrifennydd Busnes y DU i ail gyfarfod Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymunodd Mr Cable a Mrs Gillan ac aelodau o’r grŵp sy’n cynrychioli busnesau yng Nghymru i drafod ymdrechion y Llywodraeth i hybu adferiad economaidd yng Nghymru ac i glywed eu hymatebion i Gynllun ar gyfer Twf y Llywodraeth, a gyhoeddwyd ochr yn ochr a’r Gyllideb yr wythnos diwethaf. Roedd yr Ysgrifennydd Busnes ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bresennol yn y trafodaethau fel rhan o daith o amgylch y sector preifat a gweithgynhyrchu yn Ne Cymru.

Dyma ail gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes, y mae ei aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau busnes a sectorau hollbwysig megis gweithgynhyrchu, manwerthu, trafnidiaeth, ynni, a gwasanaethau ariannol, yn ogystal ag Academwyr o Gymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar adeg briodol i fusnesau yng Nghymru. Yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf, gwnaethom gyhoeddi nifer o fesurau newydd i ysgogi twf, i greu swyddi ac i ddenu buddsoddiad, gan gynnwys toriadau yn y Dreth Gorfforaethol, mesurau i leihau biwrocratiaeth, a’r Cynllun ar gyfer Twf. Fel Llywodraeth, rydym am anfon neges bod Cymru ar agor i fusnes.

“Bydd y mesurau newydd hyn yn gwneud Cymru a gweddill y DU yn un o’r lleoedd gorau yn Ewrop i ddechrau busnes, ei ariannu a’i ddatblygu, ond ni allwn wneud hyn heb yr adborth a gawn gan y busnesau ar lawr gwlad. Dyna pam mae ein cyfarfodydd a chynrychiolwyr busnes yma yng Nghymru yn hollbwysig o ran llunio ein polisi yng Nghymru yn ogystal ag yn y DU. Mae cefnogaeth sefydliadau megis Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a grwpiau busnes mawr yn dangos bod gan y Llywodraeth gynllun ymarferol i ddelio a’r lefel uchaf erioed o ddiffyg yn y gyllideb ac i ysgogi twf economaidd cynaliadwy.

“Mae’r dyfodol ar gyfer busnesau yng Nghymru yn ddisglair, gyda buddsoddiad megis £1biliwn i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Dde Cymru a £10miliwn i gael band eang cyflym iawn yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yr her i Lywodraeth Cynulliad Cymru yw adeiladu ar ein hymrwymiadau megis datblygu Parthau Menter, cefnogi prentisiaethau a cholegau technegol newydd, a helpu pobl sy’n prynu cartref am y tro cyntaf, er mwyn sicrhau nad ydy Cymru a busnesau yng Nghymru dan anfantais.”

Gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cadeirio’r cyfarfod, bu’r grŵp yn trafod rhoi’r Cynllun ar gyfer Twf ar waith, sydd a’r nod o greu’r system dreth fwyaf cystadleuol yn y G20, yn ogystal a’r gweithlu addysgedig mwyaf hyblyg yn Ewrop. Yna, cafodd aelodau gyfle i siarad a’r Ysgrifennydd Busnes am eu profiadau eu hunain yn yr amgylchedd busnes presennol yng Nghymru.

Caiff cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori ar Fusnes ei gynnal yn Llundain ym mis Mehefin.

Yn gynharach heddiw bu Mrs Gillan gyda’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable ar ei daith o gwmpas y diwydiannau cynhyrchu yn Ne Cymru, gan gychwyn yn Abertawe gyda thrafodaeth busnes o gwmpas y bwrdd a drefnwyd gan Siambr Fasnach De Cymru. 

Yna ymwelodd Dr Cable a Mrs Gillan a gwaith Dur Tata ym Mhort Talbot i glywed mwy am fuddsoddiad y cwmni o £185 miliwn i wella effeithlonrwydd a chynhyrchaeth ar y safle.  Yn dilyn yr ymweliad a Tata, ymwelodd y ddau a gwaith Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr i weld y dechnoleg man eithaf y grefft a ddefnyddir ym mheiriannau EcoBoost a gynhyrchir yn y ffatri a’u hallforio ar draws y byd.

Dywedodd Vince Cable, “Rydym yn ffodus o gael dau gynhyrchydd byd enwog yma yn Ne Cymru.  Mae traean o holl beiriannau car a werthir yn rhyngwladol yn cael eu gwneud ym Mhen-y-Bont ar Ogwr gyda ‘r nwyddau dur a gynhyrchir ym Mhort Talbot yn cael ei allforio’n llwyddiannus ar draws y byd.

Mae Dur Tata a Ford, y ddau fel ei gilydd, yn buddsoddi miliynau yn y DU, a thrwy hynny yn diogelu a chreu gwaith.  Maent yn dangos sut y bydd cynhyrchu yn chwarae rol allweddol i beri mwy o dwf cynaliadwy na adfywir gan swigod eiddo ac na fydd yn or-ddibynnol ar y gwasanaethau ariannol.”

Nodiadau

Yr Adolygiad Twf yw proses sy’n cael ei harwain ar y cyd gan y Trysorlys a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Cafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2010, a’i nod yw sicrhau bod holl Adrannau’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r wlad i dyfu ac i godi o’r dirwasgiad.  

Caiff y Cynllun ar gyfer Twf, sy’n cynnwys canlyniadau cyntaf adolygiad twf y Llywodraeth ei gyhoeddi ochr yn ochr a’r Gyllideb a gellir ei lwytho i lawr yn: http://www.hm-treasury.gov.uk/ukecon_growth_index.htm

Cyhoeddwyd ar 29 March 2011