Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu prif weithredwr Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI), Nick Baird i’r Grŵp Cynghori ar Fusnes

Bydd cynyddu masnach rhwng Cymru a gweddill y byd ar frig agenda cyfarfod diweddaraf Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nes…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd cynyddu masnach rhwng Cymru a gweddill y byd ar frig agenda cyfarfod diweddaraf Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nes ymlaen heddiw [5 Gorffennaf].

Bydd Nick Baird, prif weithredwr UKTI - sefydliad masnach a buddsoddi’r Llywodraeth - yn rhoi trosolwg i’r grŵp o’r gweithgarwch presennol ac yn hwyluso trafodaeth ynghylch sut y gall Cymru wella ei chyrhaeddiad fel brand rhyngwladol er mwyn denu darpar fuddsoddwyr o’r tu allan.  

Mae siaradwyr blaenorol yn y grŵp hwn yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau, Vince Cable, y Gweinidog dros Brifysgolion, David Willets a’r Gweinidog dros Gyflogaeth, Chris Grayling.

Bydd cynrychiolwyr o General Dynamics, Dragon LNG, Toyota, Smart Solutions, Cymdeithas Lletygarwch Llandudno a Golchdy Afonwen yn dod ynghyd yn y cyfarfod heddiw i gynnal trafodaethau ym mhencadlys Swyddfa Cymru yn Whitehall.

Yn ystod y cyfarfod, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn tanlinellu ei hymrwymiad i greu’r amodau cywir i annog rhagor o dwf a buddsoddiad yng Nghymru. Bydd yn ailddatgan ei chefnogaeth at ddatblygu’r achos dros brosiectau seilwaith allweddol yng Nghymru, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffyrdd o Gaerdydd i Abertawe ac i’r Cymoedd, a allai fod yn elfen hanfodol o ddarparu economi lwyddiannus yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Does dim ffordd well o gael barn ynghylch amodau busnes yng Nghymru na chyfarfod perchnogion busnes ac arbenigwyr y diwydiant wyneb yn wyneb a chynnig cipolwg newydd o’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn mannau eraill yn y Llywodraeth i gefnogi busnesau. 

“Gyda Mr. Baird yn ymuno a ni heddiw, byddwn ni’n cael y cyfle i edrych yn ofalus ar effaith a chyrhaeddiad brand Cymru mewn marchnadoedd dramor yn ogystal a llwyddiant hynny yn nes adref.  

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o amlygrwydd ac effaith i fusnesau Cymru ac mae’r Llywodraeth yn awyddus i ddangos ei bod wedi ymrwymo’n llwyr i Gymru fodern, ddynamig, sy’n fwy cysylltiedig.  Byddai rhagor o fuddsoddi yn y broses o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd ac Abertawe yn rhoi’r cyfleoedd i ni wneud hynny yn ddi-os.  

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i greu achos busnes cadarn ar gyfer y rhan hon o drydaneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd, ac rwyf wedi bod yn gwneud sylwadau cryf ers amser ynghylch yr angen i ddarparu cysylltiadau cludiant modern ac effeithlon.

“Rwy’n croesawu’r newyddion calonogol diweddar ynghylch allforion o Gymru ond rwyf hefyd am helpu i wella’r dirwedd a’r amodau i fusnesau a sefydliadau Cymru mewn unrhyw ffordd y gallaf, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn. Rwy’n falch iawn o gael cyfle arall i wrando ar farn aelodau ein Grŵp Cynghori ar Fusnes heddiw.”

Cyhoeddwyd ar 5 July 2012