Ysgrifennydd Cymru yn croesawu buddsoddiad ‘sylweddol’ o Japan yng ngrŵp gwreiddiol Cwmni Awyrennau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fuddsoddiad gwerth degau o filiynau o bunnau mewn cwmni awyrennau ym Mhen-y-bont…
Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fuddsoddiad gwerth degau o filiynau o bunnau mewn cwmni awyrennau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn creu 70 o swyddi ychwanegol erbyn 2015.
Mae Mitsubishi Corporation wedi cymryd cyfran o 35% o TES Holdings, grŵp gwreiddiol TES Aviation Group, sydd yn Ystad Ddiwydiannol Waterton. Mae Development Bank of Japan wedi prynu 25% arall.
Sefydlwyd y busnes cynnal a chadw awyrennau yn 1995 ac mae’r cwmni’n cyflogi 127 o bobl ar hyn o bryd, ac mae ei drosiant yn £63m.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:
“Dyma’r union fath o fuddsoddwyr o’r tu allan o safon uchel rydyn ni eisiau eu denu yng Nghymru.
“Mae’r diwydiant awyrennau yn un o brif ysgogwyr economi’r DU, ac mae’r cyhoeddiad yma heddiw yn rhoi cyfle gwych i’r cwmni ddatblygu amrywiaeth eu cynnyrch ac ymestyn y busnes i farchnadoedd tramor.
“Mae’n bleidlais o ffydd go iawn yn nhalent, arbenigedd a sgiliau ein gweithwyr, ac yn ddi-os, bydd yn gwella enw da y DU fel y prif leoliad ar gyfer y math yma o fuddsoddiad.