Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Prif Swyddog yn y Llynges Frenhinol i Dŷ Gwydyr cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog
Heddiw [13 Mehefin 2011] cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Phrif Swyddog HMS Trenchant, un o longau tanfor y Llynges Frenhinol…
Heddiw [13 Mehefin 2011] cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Phrif Swyddog HMS Trenchant, un o longau tanfor y Llynges Frenhinol, cyn dathliadau cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 25 Mehefin 2011.
Roedd y Comander Irvine Lindsay RN yn ymweld a Swyddfa Cymru yn Whitehall i gyflwyno arfbais goffaol i gydnabod y cysylltiadau arbennig rhwng y llong a Chymru.
Dywedodd Mrs Gillan y byddai’r arfbais yn symbol o’r cwlwm cryf rhwng Cymru a’r Lluoedd Arfog.
Ychwanegodd: “Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod a’r Comander Lindsay heddiw, sy’n rheoli rhai o weithrediadau mwyaf hanfodol y Llynges ledled y byd. Mae gan HMS Trenchant eisoes gysylltiadau cryf a De Cymru, gan gynnwys Cadlanciau Llong Llanelli a Phorthcawl. Mae’n braf iawn gweld bod Prif Swyddogion y llong yn chwarae rhan mor bwysig yn ysgogi’r genhedlaeth nesaf o aelodau’r Lluoedd Arfog.
“Bydd arfbais HMS Trenchant yn cael ei harddangos ym mynedfa Tŷ Gwydyr fel y bydd yr holl ymwelwyr a’r adeilad yn gweld y cysylltiad anrhydeddus sydd rhwng Cymru a’n Lluoedd Arfog.”