Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu trwydded amgylcheddol gorsaf bŵer Sir Benfro
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed heddiw, sef bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi…
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed heddiw, sef bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi trwydded amgylcheddol i’r orsaf bŵer nwy yn Sir Benfro. Mae’n newyddion gwych i’r economi lleol oherwydd golyga’r orsaf fuddsoddiad o tua biliwn o bunnoedd, sy’n wir ei angen yng Nghymru, a bydd tair miliwn o gartrefi’n cael budd o’r ynni lleol. Mae Cymru’n chwarae ei rhan yn diogelu isadeiledd ynni’r Deyrnas Unedig i’r dyfodol, ac rwy’n hyderus y bydd asesiadau Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau fod yr amgylchedd lleol yn cael ei gwarchod”.