Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu lle Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr Treftadaeth y Byd y DU

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu cynnwys Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr fer y DU o geisiadau am statws Treftadaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu cynnwys Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr fer y DU o geisiadau am statws Treftadaeth y Byd UNESCO.

Heddiw (dydd Mawrth 22 Mawrth), cyhoeddodd John Penrose, y Gweinidog dros Dwristiaeth a Threftadaeth, fod Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn un o’r 11 ymgeisydd terfynol yn rhestr amodol newydd y DU o enwebiadau posibl ar gyfer statws treftadaeth y byd.

Meddai Mrs Gillan, a fu’n ymweld a’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis yr haf diwethaf: “Mae’r diwydiant llechi wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio tirwedd ac economi Gogledd Cymru ers y 19eg Ganrif. Mae’r ffaith bod y diwydiant wedi’i gynnwys ar y rhestr fer yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i dwristiaeth Cymru, a bydd yn hybu twristiaeth yn yr ardal yn ystod yr haf sydd i ddod.

“Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Gogledd Cymru, gan sicrhau incwm hyd at £1.8 biliwn i’r ardal a chefnogi tua 37,000 o swyddi. Byddai statws treftadaeth yn helpu i ddangos i’r byd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig - o ardaloedd o harddwch eithriadol i dreftadaeth ddiwydiannol ddramatig.”

Cyhoeddwyd ar 22 March 2011