Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r am ddyweddiad Brenhinol

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu’r newydd am y dyweddiad Brenhinol a’r cyhoeddiad y bydd y par yn byw yng Ngogledd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu’r newydd am y dyweddiad Brenhinol a’r cyhoeddiad y bydd y par yn byw yng Ngogledd Cymru ar ol priodi, gan y bydd y Tywysog William yn parhau i wasanaethu yn Awyrlu Brenhinol y Fali ar Ynys Mon.

“Bydd Cymru gyfan yn dymuno bob hapusrwydd i’r Tywysog William a Kate Middleton yn y dyfodol wrth iddynt gynllunio i gychwyn ar eu bywyd priodasol gyda’i gilydd yng Ngogledd Cymru.

“Braf iawn yw clywed y bydd y Tywysog yn dod a’i wraig newydd i fyw yng Nghymru.  Rwyf yn siŵr y bydd y par Brenhinol yn mwynhau byw yng Ngogledd Cymru lawn gymaint ag y mae Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn trysori’r amser y byddant yn ei dreulio yn y cartref sydd ganddynt yn Llwynywermwd yn Sir Gaerfyrddin.”

Cyhoeddwyd ar 16 November 2010