Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r newyddion am ardaloedd menter ychwanegol

Heddiw fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, groesawu’r newyddion y bydd dwy ardal fenter ychwanegol yn cael eu creu yn Sir Benfro…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, groesawu’r newyddion y bydd dwy ardal fenter ychwanegol yn cael eu creu yn Sir Benfro ac yng Ngwynedd.

Yn ol ym mis Medi 2011, fe wnaeth Edwina Hart, Gweinidog Busnes Cymru, gyhoeddi y byddai’r pum ardal fenter gyntaf yn cael eu creu. Ddoe, amlinellodd Mrs Hart ei chynlluniau i ychwanegu Sir Benfro a Gwynedd i’r rhestr, a’i chynlluniau i ehangu ardal Sain Tathan ym Mro Morgannwg er mwyn cynnwys Maes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r her i hybu economi Cymru yn gofyn am ddull beiddgar ac amlochrog o weithredu, er mwyn rhoi hwb i dwf ac adferiad economaidd yng Nghymru. Rwy’n falch o glywed, felly, bod Llywodraeth Cymru am greu’r ardaloedd menter ychwanegol hyn yng Ngwynedd ac yn Sir Benfro. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith eu bod am ehangu ardal fenter Bro Morgannwg, er mwyn iddi gynnwys Maes Awyr Caerdydd.

“Mae creu’r amgylchedd cywir i fusnesau allu ffynnu ynddo yn hanfodol. Rwy’n gobeithio y bydd yr ardaloedd menter arfaethedig yn rhoi’r un manteision cystadleuol i gwmniau Cymru a’r rheini ar draws y ffin, ac rwy’n falch o weld Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r her.”

Bydd ardaloedd eraill yn cael eu creu ar Ynys Mon, yng Nglyn Ebwy, yng Nglannau Dyfrdwy ac yng Nghaerdydd er mwyn cefnogi diwydiannau allweddol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2012