Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cynllun profiad gwaith newydd i bobl ifanc sy’n chwilio am swydd

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu menter newydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i helpu pobl ifanc yng Nghymru i…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu menter newydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael lleoliadau profiad gwaith er mwyn rhoi hwb i’w hyder a’u cyflogadwyedd.

Bydd y cynllun newydd a gafodd ei lansio gan Chris Grayling, y Gweinidog dros Gyflogaeth, heddiw (dydd Llun, 24 Ionawr) yn cyfateb pobl ifanc ddi-waith, rhwng 18 a 21 oed, a chyflogwyr i gael hyd at wyth wythnos o brofiad gwaith.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae profiad gwaith yn meithrin hyder a chyflogadwyedd pobl ifanc sy’n chwilio am waith. Ym marchnad swyddi gystadleuol iawn Cymru heddiw, mae gan ymgeiswyr ifanc sydd a phrofiad o waith gyfle gwell i sicrhau cyflogaeth barhaol.

“Wrth ymweld a sir y Fflint wythnos diwethaf cefais gyfle i gwrdd a myfyrwyr a phrentisiaid a oedd yn elwa o’r cysylltiadau hyfforddiant rhwng Toyota a Choleg Glannau Dyfrdwy. Cefais hefyd gyfle i gwrdd a chyflogwyr sector preifat yng Nghanolfan Byd Gwaith Shotton sy’n darparu profiad gwaith, cefnogaeth sgiliau ac sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer y gweithlu lleol.  

“Yng Nghymru mae gennym bron i hanner miliwn o bobl yr ystyrir eu bod yn Economaidd Anweithgar ac mae cynifer ag un plentyn o bob pump yn cael eu magu mewn teuluoedd lle nad oes yr un rhiant na’r llall yn gweithio. Heb sgiliau, hyder a modelau rol cadarnhaol, bydd y bobl ifanc hyn yn aros wedi’u dal mewn cylch o ddiwylliant budd-daliadau a fydd yn falltod ar Gymru am genedlaethau i ddod.

“Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru i arfogi’r rheini sy’n chwilio am swyddi a’r sgiliau a’r doniau y mae eu hangen er mwyn ailymuno a’r gweithle. Mae’n hanfodol ein bod yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru er mwyn iddynt allu ychwanegu at eu CV a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd yn y gweithle a phrofi i’r teuluoedd hynny sy’n dibynnu ar fudd-daliadau, bod gwaith yn talu.”

Dan y fenter newydd, bydd pobl ifanc yn cael cymryd rhan mewn hyd at wyth wythnos o brofiad gwaith, er mwyn iddynt gael cyfnod iawn mewn busnes, gan ennill profiad gwerthfawr, cael rhywbeth gwerthfawr i’w roi ar eu CV a rhoi gwerth go iawn i’r cyflogwr. Dan yr hen system, dim ond hyd at bythefnos o brofiad gwaith roedd pobl yn ei gael. Os oeddent yn ceisio gwneud mwy, gallent golli eu budd-daliadau. Bydd pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed yn cael eu cyfateb gan y Ganolfan Byd Gwaith a chyflogwyr sy’n chwilio am bobl i gymryd rhan mewn profiad gwaith. Bydd staff arbenigol yn y Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda busnesau i chwilio am y cyfleoedd profiad gwaith gorau.

Cyhoeddwyd ar 24 January 2011