Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Mesur Lleoliaeth I drosglwyddo pwerau I gymunedau

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu cyhoeddi Mesur Lleoliaeth y Llywodraeth sy’n arwain at newidiadau arloesol drwy drosglwyddo…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu cyhoeddi Mesur Lleoliaeth y Llywodraeth sy’n arwain at newidiadau arloesol drwy drosglwyddo pwerau i gymunedau.

Mae llywodraeth leol Cymru wedi datganoli i raddau helaeth, felly mae’r Mesur Lleoliaeth yn cynnwys pwerau fframwaith a fyddai’n datganoli cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cymru mewn tri maes:

  • refferenda lleol ynghylch lefelau arfaethedig ar gyfer y dreth gyngor;
  • ceisiadau cynllunio a gorfodaeth;
  • y system Cyfrif Refeniw Tai a Chymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru.

Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys dwy ddarpariaeth ar gyfer Cymru yn unig a fydd yn cyflwyno pŵer i Weinidogion y Cynulliad benderfynu ar amseru ailbrisio’r dreth gyngor yng Nghymru, a phŵer i Weinidogion y Cynulliad roi cyfarwyddiadau i awdurdodau lleol Cymru sy’n methu creu cyfrifiadau cyllideb newydd ar ol gosod cap ar eu Treth Gyngor.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r Mesur Lleoliaeth yn gwyrdroi degawdau o reolaeth gan lywodraeth ganolog, ac yn rhoi pŵer yn ol i’r cymunedau lleol eu hunain. Rydym yn datganoli pŵer i ddinasyddion, grwpiau cymunedol a chymdogaethau, i helpu pobl leol i lunio a dylanwadu ar y llefydd maent yn byw ynddynt.

“Yng Nghymru, lle mae llywodraeth leol eisoes wedi datganoli i raddau helaeth, mae hyn yn golygu caniatau i Lywodraeth y Cynulliad ddatganoli a deddfu i roi’r pŵer i bobl leol roi feto ar gynnydd gormodol i’r dreth gyngor, a rhoi rhyddid i’r Cynulliad benderfynu ar amseru ailbrisio’r dreth gyngor yn hytrach na bod yn rhwym wrth yr amserlen bresennol, sef adolygiad bob 10 mlynedd.

“Bydd hyn yn rhoi Cymru yn yr un sefyllfa a Lloegr, os byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dymuno hynny, fel na fyddai pobl Cymru dan anfantais. Bydd y Mesur hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i’r Cynulliad dros faterion yn ymwneud a thai, gan roi cyfle i weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud penderfyniadau sy’n nes at y cymunedau yr effeithir arnynt.”

Bydd nifer o ddarpariaethau yn berthnasol i Gymru a Lloegr.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sicrhau na chaiff cynghorwyr eu hatal rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau lle maent wedi mynegi barn ynghylch materion cysylltiedig;
  • mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi datganiadau polisi ynghylch tal uwch weithwyr;
  • diddymu dyletswyddau i awdurdodau lleol hyrwyddo dealltwriaeth o ddemocratiaeth leol a chynllunio ar gyfer ymdrin a deisebau;
  • mynnu pleidlais ynghylch yr holl gynigion ar gyfer Atodiadau Ardrethi Busnes, a rhoi cyfle i awdurdodau lleol roi disgownt ar Ardrethi Busnes yn ol disgresiwn;  
  • newid y ffordd gallai awdurdodau tai lleol gyflawni’r brif ddyletswydd o ran digartrefedd dan Ddeddf Tai 1996.

Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n gofyn am Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau atebolrwydd tal awdurdodau lleol, y diddymiadau sy’n berthnasol i ddemocratiaeth leol a deisebau a’r darpariaethau ar gyfer digartrefedd.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae Swyddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chynulliad Cymru a’r Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol i sicrhau bod y tri phŵer fframwaith, a’r darpariaethau ynghylch y dreth gyngor ar gyfer Cymru yn unig, wedi’u cynnwys yn y Mesur, fel ei fod yn barod i’w gyhoeddi heddiw.

“Rwyf fi nawr yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynulliad a’r Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, er mwyn mynd a’r mesurau hyn drwy’r Senedd a’r Cynulliad.”

Cyhoeddwyd ar 13 December 2010