Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r ystadegau diweddaraf ar y farchnad lafur

Mae Cheryl Gillan, yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi croesawu’r Ystadegau diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod lefel…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi croesawu’r Ystadegau diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 10,000 a bod lefel anweithgarwch economaidd Cymru wedi disgyn 13,000 ers y chwarter blaenorol.

Roedd lefel cyflogaeth yng Nghymru ar gyfer Hydref-Rhagfyr 2010 wedi codi i 1.335m ac roedd y lefel anweithgarwch economaidd wedi disgyn i 492,000 dros yr un cyfnod.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r sefyllfa gyflogaeth yng Nghymru yn dal i fod yn ansicr ond mae’n galonogol gweld cwmniau megis JCB yn Wrecsam, lle bum i a’r Canghellor ar ymweliad yr wythnos diwethaf, unwaith eto yn recriwtio ac yn llofnodi contractau newydd. Mae’n braf gweld bod pethau’n gwella i nifer o gwmniau yng Nghymru. Wrth gwrs, er ein bod yn croesawu’r ffigurau hyn ar gyflogaeth a chyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru, rhaid i ni beidio a gorffwys ar ein rhwyfau gan eu bod yn atgyfnerthu bod angen bod yn gyson wyliadwrus a bod angen cydweithredu ar draws Llywodraethau i wneud yn siŵr ein bod yn cynyddu cyfleoedd i gynnal a chreu cyflogaeth yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 16 February 2011