Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad Hitachi mewn ynni niwclear yn bleidlais o ymddiriedaeth wirioneddol

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Hitachi wedi cwblhau prynu Horizon Nuclear Power mewn del…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Hitachi wedi cwblhau prynu Horizon Nuclear Power mewn del sy’n sicrhau cynhyrchiant niwclear yn Wylfa ar yr ynys.

Fe wnaeth cawr y byd technoleg o Japan y bore yma gadarnhau ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen a chynlluniau Horizon Nuclear Power i adeiladu o leiaf ddau safle niwclear newydd yn Wylfa ac yn Oldbury yn Swydd Gaerloyw.

Gan groesawu’r cyhoeddiad, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

“Pan gefais fy mhenodi yn Ysgrifennydd Gwladol, fe ddywedais yn glir mai sicrhau dyfodol i gynhyrchiant niwclear yn Wylfa oedd fy mhrif uchelgais. Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i Ynys Mon a Gogledd Cymru gyfan.

“Del fasnachol oedd hon, ond mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llwyr i’r ymdrechion i sicrhau bod yr amodau’n iawn ar gyfer buddsoddi mewn pŵer niwclear newydd yng Nghymru a’r DU gyfan.

“Rwyf wedi ymweld a Wylfa nifer o weithiau a gwn fod cyfoeth o arbenigedd niwclear a phrentisiaid ifanc awyddus i’w cael ar Ynys Mon; gallan nhw’n awr edrych ymlaen at ddyfodol sicr gyda chyflogaeth o’r ansawdd gorau a chyflog da.

“Yfory, bydd y buddsoddwyr a minnau yn ymweld a’r Ganolfan Ynni yng Ngholeg Menai lle gwelwn sut mae’n gwneud ei chyfraniad pwysig ei hun i’r sector ynni sy’n prysur dyfu. Mae’r cyfleuster diweddaraf hwn yn cynnig cyrsiau arbenigol i hyfforddi pobl ifanc i weithio yn y sector ac mae’n darparu iddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen i weithio mewn adeilad niwclear newydd.

“Bydd buddsoddiad Hitachi yn newyddion ardderchog i’r myfyrwyr ac i gymuned Gogledd Cymru gyfan. Mae’n gymeradwyaeth atseiniol i Gymru fel lle sy’n barod am fuddsoddiad a bydd yn hwb sydd i’w groesawu i’r economi leol.

“Rhagwelir y bydd rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi yn cael eu creu yn Wylfa yn ystod y gwaith adeiladu, gyda 1,000 o swyddi pellach hirdymor yn cael eu creu ar y safle unwaith y bydd yn gweithredu. Ceir hefyd ymrwymiad cadarn gan y cwmni i gynnwys cadwyn gyflenwi’r DU yn yr hyn fydd yn un o’r heriau adeiladu mwyaf y mae Cymru wedi’i gweld ers degawdau.

“Rhaid i fusnesau Cymru yn awr baratoi i wynebu’r her a manteisio ar y cyfleoedd y bydd y buddsoddiad hwn yn eu cynnig.

“Am flynyddoedd lawer, mae Cymru wedi chwarae rhan holl bwysig i gynhyrchu a chyflenwi ynni yn y DU. Mae gwerthu Horizon yn cadarnhau safle canolog Cymru yng nghynlluniau’r DU i sicrhau ein dyfodol yn y maes ynni, yn ogystal a’i rol arweiniol yn rhaglen niwclear newydd y wlad.”

Cyhoeddwyd ar 30 October 2012