Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad ynghylch GM Ellesmere Port

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad gan GM a fydd yn golygu diogelu 2,000 o swyddi a’r gwaith o gynhyrchu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad gan GM a fydd yn golygu diogelu 2,000 o swyddi a’r gwaith o gynhyrchu ceir yn y ffatri yn Ellesmere Port tan o leiaf 2020.

Bydd y buddsoddiad o £125miliwn i adeiladu’r Astra diweddaraf hefyd yn creu 700 o swyddi newydd a dros 3,000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi - newyddion a fydd yn cael ei groesawu gan gannoedd o weithwyr yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio yn y ffatri.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Bydd y cyhoeddiad hwn yn newyddion da iawn i’r economi a’r cannoedd o weithwyr o Ogledd Cymru sy’n teithio i’r ffatri yn Ellesmere Port bob diwrnod.

“Mae’r newyddion yn brawf o sgiliau disglair y gweithlu, ac yn enghraifft wych o sut y mae’r Llywodraeth hon yn helpu i greu’r amgylchedd iawn ar gyfer diwydiant. Hefyd, mae’n arwydd sicr arall bod sector moduron y DU yn dal i fynd o nerth i nerth ac ar agor i fusnes.”

Cyhoeddwyd ar 17 May 2012