Datganiad i'r wasg

YSGRIFENNYDD CYMRU’N CROESAWU GOSTYNGIAD MEWN DIWEITHDRA: YSTADEGAU’R FARCHNAD LAFUR WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW

Mae Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw (15fed Chwefror), sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw (15fed Chwefror), sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu a bod lefelau diweithdra wedi gostwng ryw ychydig. Dywedodd Ysgrifennydd Cymru ei bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU a Chymru yn parhau i gydweithio er mwyn rhoi hwb i swyddi a thwf yng Nghymru.

Dangosodd arolygon y Sefydliad Llafur Rhyngwladol bod lefel a chyfradd cyflogaeth wedi codi tra bod lefel a chyfradd diweithdra wedi gostwng ryw ychydig. Mae lefel a chyfraddau’r anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn arwyddocaol hefyd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Roedd ystadegau’r mis diwethaf yn dynodi bod rhywfaint o newyddion cadarnhaol wedi bod; dyma’r ail gyfres yn olynol o ffigurau i ddangos bod diweithdra’n gostwng a chyflogaeth yn codi ac rwy’n croesawu hynny.

“Er bod y gyfradd ddiweithdra’n parhau’n annerbyniol o uchel yn 9.0%, rydym ni’n gweld rhai arwyddion calonogol bod pethau’n gwella. Er hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod adfer ar ol y diffyg gwaethaf mewn hanes heb fod yn ystod cyfnod o ryfel yn cymryd amser. Ddoe, dywedodd y Canghellor bod gennym ni nifer o broblemau i’w hwynebu yn y wlad hon, ond mai delio a’n dyledion ni yw un o’n blaenoriaethau ac rwy’n ategu hynny.         

“Rydw i’n gwbl ymroddedig i gydweithio a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cymaint ag y bo modd o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru ac, yn ddiweddar iawn, cefais gyfarfod gyda’r Gweinidog Busnes a Menter, Edwina Hart, i drafod y mater. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i hybu Cymru fel cyrchfan busnes. Mae gennym ni weithlu, lleoliad a gwybodaeth fusnes y gallwn ni fod yn falch ohonynt yng Nghymru ac rydw i’n hyderus bod y ffactorau hyn yn parhau’n ddewis cystadleuol ac atyniadol i fuddsoddwyr yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.”

**Nodiadau i olygyddion: **

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 68.5%, cynnydd o 0.8% ar y chwarter diwethaf
  • Roedd y gyfradd ddiweithdra yn 9.0%, gostyngiad o 0.3% ar y chwarter diwethaf, ond 0.7% yn uwch na’r un chwarter yn 2010
  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn 24.6%, gostyngiad o 0.7% ar y chwarter diwethaf a gostyngiad o 1.3% ar yr un chwarter y llynedd 
  • Roedd cyfradd ddiweithdra nifer yr hawlwyr budd-daliadau yn 5.6% ym mis Ionawr, cynnydd o 0.1% ers mis Rhagfyr 2011 a 0.6% yn uwch o gymharu a’r llynedd      
  • Roedd lefel y Bobl Ifanc Sy’n Hawlio Budd-daliadau Diweithdra yn 28,200, cynnydd o 3,600 ar fis Ionawr 2011.
  • Mae diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn cyfrif y rhai sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn ystod y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn ystod y pythefnos nesaf; a hefyd y rhai sydd allan o waith, wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i ddechrau yn ystod y pythefnos nesaf.
Cyhoeddwyd ar 15 February 2012