Stori newyddion

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu’r effaith i deithwyr o seddau ychwanegol ar y trên

Heddiw, [22 Tachwedd] croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r cyhoeddiad gan Theresa Villiers, y Gweinidog Rheilffyrdd, bod rhai…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, [22 Tachwedd] croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r cyhoeddiad gan Theresa Villiers, y Gweinidog Rheilffyrdd, bod rhai o lwybrau rheilffyrdd prysuraf y wlad i dderbyn cynnydd yn  nifer y seddi ar gael ar wasanaethau First Great Western..

O ganlyniad i’r cyhoeddiad heddiw, bydd o leiaf 4 o drenau Llundain/Abertawe yn cael mwy o gynhwysedd yn ystod gwasanaethau’r bore a gwasanaethau brig, a bydd hynny’n ychwanegu at nifer y cerbydau tren a’r gwasanaethau mewn da bryd ar gyfer Gemau Olympaidd  Llundain yn 2012. Bydd teithwyr Thames Valley yn cael 4500 o seddi ychwanegol bob dydd, i mewn ac allan o Paddington Llundain, ac fe gaiff hynny effaith ar wasanaethau i Dde Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Bydd y cynnydd yn nifer y seddi a fydd ar gael ar y gwasanaethau hyn yn cael effaith ar wasanaethau i Dde Cymru ac fe ddylai teithwyr rhwng Abertawe a Llundain sylwi gwahaniaeth positif ar rai o’r gwasanaethau. Mae Llywodraeth y DU yn ymroddedig i wella rhwydwaith y rheilffyrdd er mwyn gwella cysylltedd Cymru gyda gweddill y wlad, ac o fewn ei chymunedau ei hun.

“Ym mis Mawrth, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau i drydanu Prif Lein Great Western rhwng Llundain a Chaerdydd, gan gydnabod bod rhwydwaith mewnol sydd wedi ei wella, ac amser teithio is yn elfen hanfodol ar gyfer cyflawni adferiad economaidd llwyddiannus yng Nghymru, a bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i adeiladau arno.”

Am fwy o wybodaeth ar gyhoeddiad y Gweinidog Rheilffyrdd, cliciwch yma

Cyhoeddwyd ar 22 November 2011