Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Ystadegau ‘calonogol’ am y Farchnad Lafur

Heddiw (14 Mawrth 2012) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan Ystadegau a gyhoeddwyd am y Farchnad Lafur, sy’n dangos bod lefelau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (14 Mawrth 2012) croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan Ystadegau a gyhoeddwyd am y Farchnad Lafur, sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu am y trydydd mis yn olynol.

Ailadroddodd Mrs Gillan ei hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i barhau a’r cynnydd yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf, sy’n dangos bod lefel cyflogaeth wedi codi 21,000 yng Nghymru ers y chwarter diwethaf i 1.344m, 14,000 yn uwch na’r un chwarter yn 2010-11.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod cyfraddau a lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn sylweddol, ac er bod lefel diweithdra wedi codi fymryn, mae’r gyfradd wedi gostwng rhywfaint hefyd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Dyma’r drydedd set o ffigurau yn olynol sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yn codi yng Nghymru. Maen nhw’n dangos ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad iawn wrth i ni geisio ailadeiladu’r economi.

“Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto, gyda’r gyfradd diweithdra yng Nghymru’n parhau i fod yn annerbyniol o uchel ar 9.1%.

“Mae’n destun siom bod ffigurau Eurostat a gyhoeddwyd ddoe yn dangos bod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gostwng yn is na chyfartaledd yr UE ar gyfer cynnyrch mewnwladol crynswth y pen yn 2009, ond rwy’n gobeithio y bydd y gwaith rydyn ni wedi’i wneud fel Llywodraeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn gwrth-droi’r patrwm gofidus hwn am i lawr.

“Mae’r ffigurau hyn yn amlwg yn pwysleisio’r angen i barhau a’n cynllun i greu’r amodau iawn a buddsoddi yn y seilwaith sy’n angenrheidiol i annog twf y sector preifat ac ehangu busnesau.

“Mae Llywodraeth y DU eisoes yn cyflawni gyda thrydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Gaerdydd ac rwy’n gwneud popeth sy’n bosib i wneud yn siŵr bod yr achos busnes ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd yn gadarn, ac mae’r achos dros drydaneiddio ymhellach i Abertawe’n dal i gael ei adolygu.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn, i edrych ar ffyrdd o leddfu llif traffig ar yr M4 yn ardal Casnewydd. Nid yn unig y bydd gwella’r ffordd i dde Cymru’n rhoi hwb mawr i’r economi leol, bydd hefyd yn helpu i gyfeirio Cymru tuag at adferiad mwy cynaliadwy.”

Nodiadau i Olygyddion

 • 68.4% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, cynnydd o 0.6% ers y chwarter diwethaf.

• Roedd y gyfradd diweithdra yn 9.1%, 0.1% yn is na’r chwarter diwethaf ond 0.5% yn uwch na’r un chwarter yn 2010-11

• 24.6% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd, sef 0.7% yn llai na’r chwarter diwethaf a 1.2% yn llai na’r un chwarter y llynedd

• Roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 5.7% ym mis Chwefror, yr un fath a mis Ionawr 2012 a 0.7% yn uwch o gymharu a’r llynedd

• Roedd lefel y bobl ifanc sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 29,100, cynnydd o 3,400 ers mis Chwefror 2011

• Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cyfrif y nifer sy’n ddi-waith ond sydd eisiau swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; hefyd y rheini sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i waith ac sy’n disgwyl dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyhoeddwyd ar 14 March 2012