Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Adroddiad y Comisiwn Etholiadol ynghylch Cwestiwn y Refferendwm
Heddiw [dydd Iau 2 Medi], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod y Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi adroddiad ar gwestiwn…
Heddiw [dydd Iau 2 Medi], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod y Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi adroddiad ar gwestiwn y refferendwm ynghylch pwerau pellach i Gynulliad Cymru.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Mrs Gillan: “Rwyf yn ddiolchgar i’r Comisiwn Etholiadol am gyhoeddi adroddiad heddiw ac am eu sylwadau ynghylch eglurder cwestiwn y refferendwm a’r datganiad rhagarweiniol. Mae’r adroddiad yn un trylwyr ac mae’n rhan bwysig o’r broses i sicrhau bod pobl yn deall yr hyn y gofynnir iddynt bleidleisio drosto.
“Byddaf yn trafod yr adroddiad gyda Phrif Weinidog Cymru ddydd Llun nesaf a byddaf yn gweithio gydag ef i ystyried awgrymiadau’r Comisiwn a beth yw’r ffordd orau o fwrw ymlaen er mwyn sicrhau bod y cwestiwn a nodir yng ngorchymyn y refferendwm yn glir ac yn gryno. Bydd hyn yn caniatau i ni gynnal y refferendwm erbyn diwedd mis Mawrth 2011 fel y bwriadwyd.”