Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu archeb Airbus am awyrennau gan AirAsia

Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn ffatri gosod adenydd Airbus ym Mrychdyn, Gogledd Cymru,…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn ffatri gosod adenydd Airbus ym Mrychdyn, Gogledd Cymru, i groesawu archeb newydd am 100 o awyrennau A320 ychwanegol.

Mae’r contract gydag AirAsia yn cynnwys 64 o awyrennau A320neo ychwanegol a 36 A320ceo ychwanegol a fydd yn gweithredu dros rwydwaith y cludydd. Bydd yr adenydd yn cael eu gwneud yn y ffatri ym Mrychdyn, ac ymunodd y Prif Weinidog a Mr Jones a Phrif Swyddog Gweithredol y Grŵp AirAsia, Tan Sri Dr Tony Fernandes i fynd o amgylch y cyfleuster a chwrdd a rhai o’r staff a fydd yn helpu i adeiladu’r awyrennau.

Mae’r archeb newydd yn cadarnhau sefyllfa AirAsia fel y cwsmer A320 mwyaf yn y byd. Mae’r cludydd nawr wedi archebu 475 awyren un eil gan Airbus, sy’n cynnwys 264 A320neo a 211 A320ceo. Mae dros 100 o awyrennau eisoes wedi cael eu danfon i’r cwmni hedfan ac maent yn hedfan o’i feysydd awyr yn Bangkok, Kuala Lumpur, Jakarta, Manila a Tokyo.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron: “Mae hwn yn newyddion rhagorol, ac yn hwb enfawr i’r gweithlu ac i weithgynhyrchu yn y DU.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos pa mor gryf yw sector awyrofod y DU a’r rol bwysig sydd ganddo o ran datblygu ac adfer cydbwysedd ein heconomi.

“Bydd y Llywodraeth hon yn dal ati i gefnogi’r diwydiant awyrofod yn y DU; gan dorri trethi busnes, buddsoddi mewn allforion a gweithio mewn partneriaeth gyda’r diwydiant i wneud yn siŵr ei bod wedi’i harfogi’n llawn i gystadlu a ffynnu yn fyd-eang.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones,

“Mae’r buddsoddiad newydd hwn gan AirAsia yn dangos ei fod yn ymddiried yn y dalent ac yng ngallu arloesol gweithlu Airbus, ac mae ei safle ym Mrychdyn yn rhan bwysig o’i lwyddiant yn fyd-eang.

“Rwy’n falch iawn o fod yn y safle ym Mrychdyn heddiw i groesawu’r archeb ddiweddaraf ar lyfrau Airbus, a fydd yn diogelu swyddi 1,500 o bobl yn y safle yng Ngogledd Cymru, a llawer mwy yn ei gadwyn gyflenwi ledled y DU.

Dywedodd Tan Sri Dr Tony Fernandes: “Bydd yr archeb hon yn ateb ein gofynion tymor byr a chanolig ychwanegol o ran twf wrth i’r galw gynyddu ar draws ein rhwydwaith,” meddai, “Mae’r A320 wedi bod yn rhan allweddol o’n llwyddiant, yn ein galluogi ni i gynnig y prisiau rhataf bosib i’n teithwyr ac ailddiffinio teithiau hedfan byr yn Asia yn gyfan gwbl.”

“Mae AirAsia yn un o lwyddiannau mawr diweddar y busnes awyrennau,” meddai John Leahy, Prif Swyddog Gweithredol, Cwsmeriaid, Airbus. “Mae’r hyder sydd gan y cwmni awyrennau yn yr A320 yn cadarnhau dibynadwyedd, effeithlonrwydd ac economeg ddiguro cynnyrch un eil mwyaf modern y byd.”

Dywedodd Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol, Rhaglenni ac uwch gynrychiolydd Airbus yn y DU: “Mae’r archeb hon yn hwb mawr i’r timau ym Mrychdyn ac rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Prif Weinidog a Phrif Weithredwr AirAsia i’r ffatri i weld sgiliau ac arbenigedd y tim ar waith heddiw.

“Rhaid i ni beidio a thanystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu a pheirianneg awyrofod yn y DU, sy’n waith sy’n gofyn am lawer o sgiliau ac sy’n waith o werth mawr, fel mae ein rol bwysig o ran cyfrannu’n sylweddol i awyrennau masnachol Airbus yn ei ddangos.”

Mae fflyd A320 AirAsia yn hedfan i oddeutu 70 o leoliadau ar hyn o bryd, gan ddilyn llwybrau rhwydwaith sy’n cwmpasu 20 o wledydd ar draws Asia. Hefyd, mae’r cwmni cysylltiedig, AirAsia X yn gweithredu A330-300s llydan ar deithiau hwy o Kuala Lumpur i Ogledd Asia ac Awstralia.

Bydd yr archeb ddiweddaraf gan AirAsia yn cynnal 1,500 o swyddi yn y DU yn ogystal a 7,500 arall yn y gadwyn gyflenwi estynedig.

Ym mis Rhagfyr, AirAsia fydd y cwmni cyntaf i hedfan A320s gyda “Sharklets”, a fydd yn arwain at arbedion o ran tanwydd o bron i 4 y cant ar sectorau hwy. Bydd yr arbedion hyn yn cynyddu eto gyda’r A320neo, ble bydd cyfuniad o beiriannau’r genhedlaeth newydd a’r Sharklets yn arwain at ddefnyddio oddeutu 15 y cant yn llai o danwydd.

Teulu’r A320 yw cynnyrch un eil mwyaf modern a phoblogaidd y byd. Hyd yma, mae dros 8,600 o awyrennau wedi cael eu harchebu ac mae dros 5,300 wedi cael eu danfon at dros 370 o gwsmeriaid a gweithredwyr ledled y byd.

Cyhoeddwyd ar 13 December 2012