Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu buddsoddiad gwerth £53 miliwn gan Tata yng Nghymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu buddsoddiad gwerth £53 miliwn a gyhoeddwyd heddiw gan Tata Steel i leihau’r ynni…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu buddsoddiad gwerth £53 miliwn a gyhoeddwyd heddiw gan Tata Steel i leihau’r ynni allanol a ddefnyddir ac i wella cynaliadwyedd gwaith dur yng Nghymru yn ei safle ym Mhort Talbot.

Dywedodd Mrs Gillan: “Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn o £53 miliwn yn newyddion gwych i ddyfodol hirdymor Tata yng Nghymru. Mae hefyd yn bleidlais o hyder yn y gweithlu profiadol ac ymroddedig ym Mhort Talbot ac yn economi Cymru yn gyfan.

“Mae hefyd yn newyddion da i’r amgylchedd oherwydd bydd y gofynion pŵer allanol ym Mhort Talbot yn gostwng 15 y cant o ganlyniad i’r system oeri newydd. Mae hynny’n ddigon i bweru hyd at 20,000 o gartrefi, a bydd yn helpu i wneud safle Tata yn fwy hunangynhaliol o ran ynni.

“Rydw i wedi ymweld a safle Port Talbot ddwywaith dros y flwyddyn ddiwethaf fel Ysgrifennydd Cymru, y tro diwethaf gyda Vince Cable, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, ac mae arweinyddiaeth ac ymroddiad  y rheolwyr a’r gweithwyr yn Tata bob amser wedi creu argraff arnaf.”

Mae Tata wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno system oeri newydd i’r broses Gwneud Dur gan ddefnyddio Ocsigen (Basic Oxygen Steelmaking) a fydd yn cynhyrchu stem, a bydd y stem hwn yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan.  Bydd y gostyngiad yn yr ynni a ddefnyddir yn golygu bod cynhyrchu dur yng Nghymru yn dod yn broses fwy cynaliadwy. Byddai’r 10MW o ynni a gaiff ei arbed yn ddigon i bweru oddeutu 20,000 o gartrefi.

Dywed Tata y bydd prif waith y prosiect yn cael ei wneud yn ail hanner y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr a gwaith ail-adeiladu ffwrnais chwyth rhif 4 (gwerth £185 miliwn) a gyhoeddwyd gan Tata Steel wyth mis yn ol.  Daw’r buddsoddiad hefyd ar ol y prosiect Adennill Ynni safle BOS (gwerth £60 miliwn) a gwblhawyd ym mis Mai y llynedd.

Cyhoeddwyd ar 26 April 2011