Ysgrifennydd Cymru yn croesawu 300 o swyddi newydd wrth i Sharp gynhyrchu mwy o baneli solar yn Wrecsam
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn croesawu cyhoeddiad Sharp eu bod am greu 300 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru, wrth i’r cwmni gynhyrchu…
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn croesawu cyhoeddiad Sharp eu bod am greu 300 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru, wrth i’r cwmni gynhyrchu mwy o baneli solar arloesol yn ei ffatri ger Wrecsam.
Heddiw, cyhoeddodd Sharp y bydd yn cynyddu ei weithlu yn Llai i 1,100 fel rhan o gynllun £30 miliwn i ehangu’r safle. Bydd y buddsoddiad yn golygu y bydd yn cynhyrchu bron i ddwbl nifer y paneli ffotofoltaig y mae’n eu cynhyrchu ar hyn o bryd, gan gynhyrchu 3,000 o baneli ychwanegol bob dydd. Bydd academi sgiliau hyfforddi newydd ar y safle hefyd yn hyfforddi bron i 50 o osodwyr paneli solar bob mis.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion da i ogledd ddwyrain Cymru. Mae penderfyniad Sharp i ehangu nifer y paneli ffotofoltaig y mae’n eu cynhyrchu yn Llai yn dangos cryn hyder yn sgiliau a brwdfrydedd y gweithlu yng Nghymru.
“Yn ystod fy ymweliad a safle Sharp yn Llai yr haf diwethaf, gwelais a’m llygaid fy hun sut roedd y safle eisoes wedi’i sefydlu fel canolfan arloesedd a rhagoriaeth ar gyfer technoleg ffotofoltaig yn Ewrop. Ar ol trafod ei botensial, rwy’n falch y bydd cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar yr enw da hwnnw ac yn galluogi mwy o weithwyr yng Ngogledd Cymru i rannu twf a llwyddiant Sharp.
“Mae sefydlu’r academi hyfforddi ar y safle yn enghraifft arall o sut mae cyflogwyr y sector preifat, fel Sharp, yn hollbwysig er mwyn creu swyddi newydd a buddsoddi mewn darparu sgiliau i’r gweithlu lleol. Yr wythnos diwethaf, gwelais sut roedd Toyota ac Airbus yn gweithio mewn partneriaeth a Choleg Glannau Dyfrdwy i greu gweithlu medrus, o safon uchel yng Nghymru. Mae’r enghraifft amlwg hon o dwf yn y sector preifat yn arwydd o’r hyn y mae ei angen ar Gymru i sicrhau economi ffyniannus yn y dyfodol.”