Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Rhaid i Gymru fod yn barod i ymateb i’r datganoli deinamig yn Lloegr”

Alun Cairns yn galw’n daer am bwerau lleol i arweinwyr lleol mewn digwyddiad i lywodraeth leol yng Nghymru.

  • Alun Cairns yn galw am ddatganoli pwerau’n gyflym i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ystod araith gyweirnod yng Nghaerdydd
  • Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’r Uwchgynhadledd drawsffiniol gyntaf i gryfhau’r cyfleoedd economaidd rhwng De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr

Wrth annerch arweinwyr llywodraeth leol yng Nghaerdydd heddiw (23 Tachwedd), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her a chystadlu â’r datganoli deinamig newydd sy’n cael ei roi ar waith yn Lloegr.

Yn seminar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Neuadd y Ddinas, bydd Mr Cairns yn dweud bod “rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i ddatganoli dros y ffin” lle mae Meiri Dinesig yn annog twf ac yn creu cyfleoedd yn arbennig ar gyfer anghenion pobl leol. Rhaid i’r Gweinidogion ym Mae Caerdydd wneud yn siŵr fod llywodraeth leol yng Nghymru yn meddu ar “y cwmpas, y pŵer a’r adnoddau i weithredu”.

Bydd Mr Cairns yn dweud hefyd fod “pob rhan o Gymru yn wynebu heriau gwahanol a chyfleoedd gwahanol, ac mae’n bryd cefnu ar y syniad o un dull ar gyfer pawb.

Mae’r araith yn digwydd yn dilyn yr ymrwymiad yn y Gyllideb ddoe i ddechrau ar drafodaethau am fargen dwf i Ogledd Cymru, yn ogystal ag i roi hwb i drafodaethau am fargen dwf i Ganolbarth Cymru. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sicrhau Bargen Ddinesig i Gaerdydd ac Abertawe, gan roi’r modd i bobl drawsnewid eu cymunedau, eu heconomi a’u bywydau.

Bydd yn dweud “Y ffaith syml yw bod y bargeinion yn cydnabod mai pobl leol sy’n adnabod eu hardaloedd orau. Rydyn ni eisiau cael dull tymor hir, o’r bôn i’r brig, gan awdurdodau lleol, busnesau lleol a chymunedau lleol - y rheini sy’n adnabod ac yn deall cymeriad a chyfansoddiad eu hardaloedd.”

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi hefyd y bydd yn cynnal yr uwchgynhadledd drawsffiniol gyntaf ar gyfer busnesau, a hynny’n gynnar yn y Flwyddyn Newydd, pryd bydd yn dod â phartneriaid lleol o bob rhan o Dde-Orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru i weld sut y gellir cryfhau’r ddwy economi yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Tollau Hafren yn dod i ben.

Bydd yn dweud: “Mae’n bryd cael gwleidyddiaeth i ffitio busnesau, yn hytrach chael busnesau i ffitio gwleidyddiaeth. Pwysigrwydd yr economi drawsffiniol sy’n gyrru ein hymrwymiad i gryfhau perthnasoedd a datblygu partneriaethau newydd rhwng y gwledydd. Mae ein cryfderau unigol yn niferus. Ond gyda’n gilydd, gallwn ni ddatblygu’r coridorau twf sy’n gallu rhoi’r DU ar lwyfan cryf i gystadlu ar raddfa ryngwladol.”

Yna, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn teithio i Ogledd Cymru lle bydd yn annerch cynulleidfa o arweinwyr busnes yng nghinio Gweithwyr Proffesiynol Busnesau Wrecsam.

Cyhoeddwyd ar 23 November 2017