Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Mae Cymru yn barod am y Gemau

Mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn barod i groesawu’r byd. Dyna oedd geiriau Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan heddiw (25 Gorffennaf) wrth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn barod i groesawu’r byd. Dyna oedd geiriau Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan heddiw (25 Gorffennaf) wrth i Gaerdydd baratoi i gynnal digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd 2012.

Bydd yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt yn mynd gyda Mrs Gillan i Stadiwm y Mileniwm yn y brifddinas a fydd yn gartref i gemau cyntaf y twrnamaint pel-droed i fenywod, deuddydd cyn y seremoni agoriadol yn y Parc Olympaidd yn Llundain.

Bydd tim Prydain Fawr yn cystadlu yn erbyn Seland Newydd yn y Stadiwm mewn digwyddiad sy’n nodi dechrau 18 diwrnod anhygoel o chwaraeon.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Rwy’n falch dros ben bod digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn dechrau yng Nghymru.

“Mae Cymru yn chwarae rol flaenllaw yn Llundain 2012 - mae’r medalau a rhifau’r athletwyr wedi’u gwneud yng Nghymru yn ogystal ag elfennau pwysig o’r Parc Olympaidd ei hun. Rwyf am i’r wlad gyfan fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos popeth sy’n wych am Gymru, a sicrhau gwaddol parhaus ymhell ar ol i’r gemau ddod i ben.”
Bydd Cymru yn anfon ei charfan fwyaf erioed i’r Gemau Olympaidd gyda 30 o athletwyr wedi’u cadarnhau’n aelodau o Dim Prydain Fawr.”

Bydd llygaid y byd ar yr athletwyr gan gynnwys y neidiwr clwydi 400m a chapten Tim Athletau Prydain Fawr, Dai Green a Phencampwr Triathletau’r Byd Helen Tucker wrth iddynt baratoi i gystadlu am fedal yn Llundain 2012.

Gan symud o’r trac a’r caeau a’r dŵr, bydd cyfraniad busnesau Cymru i’r Gemau hefyd yn cael lle canolog.

Mae busnesau yng Nghymru wedi ennill gwerth oddeutu £38 miliwn mewn contractau sy’n gysylltiedig a’r Gemau, ac mae manteision hyn wedi rhaeadru i’r gadwyn gyflenwi, gan gefnogi swyddi a buddsoddiad.

“Bydd stamp Cymru ar ganolbwynt y Parc Olympaidd, y Stadiwm Olympaidd ei hun,” dywedodd Mrs Gillan.

“Mae’r strwythur atgyfnerthu dur ar gyfer y podiwm wedi cael ei gynhyrchu gan Express Reinforcement yng Nghastell-nedd. Hefyd, llwyddodd y cwmni Euroclad o Gaerdydd i sicrhau archeb i gynhyrchu a chyflenwi cladin a deunyddiau eraill ar gyfer y Stadiwm yn ogystal a’r Ganolfan Darlledu Ryngwladol.”

“Yn y Parc Olympaidd ac o’i gwmpas, mae cwmni arall o Gaerdydd, Bluebay Building Products wedi cyflenwi concrid wedi’i atgyfnerthu ar gyfer y pontydd a’r priffyrdd. Enillodd Rhino Doors o Bort Talbot gontract i gynhyrchu drysau mynediad i’r twneli llinellau pŵer a oedd yn brosiect enfawr.

“Pan fydd ein pum nofiwr o Gymru yn deifio i’r dŵr yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, byddant yn nofio o dan ffram ddur gadarn y to eang eiconig a adeiladwyd gan Rowecord Engineering yng Nghasnewydd. Bu Total CDM Solutions yn Aberteifi hefyd yn gweithio gyda’r prif bensaer Zaha Hadid ar gynllun y Ganolfan Chwaraeon Dŵr.

“Bu cwmni B&W Tunnelling o Ben-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau draenio a chladdu ar gyfer prif garthffos a gorsaf bwmpio’r Parc, a darparodd cwmni Wagtail o sir y Fflint gŵn synhwyro ar gyfer y tim diogelwch.

“Ar ben hynny, mae’r wobr orau bosibl i’r holl athletwyr - y 4,700 o fedalau aur, arian ac efydd - wedi cael eu gwneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Hefyd, bydd gan bob athletwr sy’n cystadlu gynnyrch o Gymru yn addurno eu festiau, diolch i’r rhifau a ddarparwyd gan First 4 Numbers o Dondu.

“Mae’r contractau hyn wedi arwain at greu a chynnal cannoedd o swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan, a dylent hwythau hefyd fod yn falch iawn o’u llwyddiannau Olympaidd.

“Edrychaf ymlaen at wylio digwyddiadau cyffrous y 18 diwrnod nesaf gan obeithio y daw fwy o fedalau nag erioed i Gymru ac i dim Prydain Fawr.”

Cyhoeddwyd ar 25 July 2012