Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Llysgenhadaeth newydd yr Unol Daleithiau yn Llundain i hyrwyddo cysylltiadau masnachu rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig

Alun Cairns: Yr Unol Daleithiau ‘yn farchnad hynod o bwysig i Gymru’

Meithrin y berthynas fasnachu gref rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig oedd ar frig yr agenda yn gynharach heddiw (Chwefror 22), pan gwrddodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, â Robert W Johnson, Llysgennad yr Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig, yn Llysgenhadaeth newydd yr Unol Daleithiau yn ne Llundain.

Trafododd Mr Cairns a Mr Johnson y mater o ddarparu sicrwydd, parhad a rhoi hwb i hyder busnesau’r Deyrnas Unedig (DU) a’r Unol Daleithiau (UD) wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, a sut mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i economi ôl-Brexit sy’n rhoi mwy byth o gyfle i’r DU ag UDA fasnachu.

Mae’r cyfarfod yn dynn ar sodlau cenhadaeth tri diwrnod yr Ysgrifennydd Gwladol i Efrog Newydd, New Jersey a Pennsylvania yr wythnos ddiwethaf (12-14 Chwefror).

Bu Alun Cairns yn cwrdd â chwmnïau sy’n gweithio mewn sectorau gwahanol, o seiberddiogelwch i gynhyrchion fferyllol, gyda’r nod o ddenu busnesau America i fuddsoddi yng Nghymru ac adeiladu ar berthynas fasnachu sy’n werth dros £3.9 biliwn yn barod.

Mae gan fusnesau yng Nghymru eisoes gysylltiadau cryf â rhai o’r economïau cryfaf sy’n tyfu gyflymaf ledled y byd. Mae dros 250 o gwmnïau America wedi’u lleoli yng Nghymru, fel GE Aviation, Ford a General Dynamics.

Roedd cwmnïau Cymru wedi allforio mwy na £2 biliwn i economi fwyaf y byd yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2017.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Fel ein partner masnachu mwyaf, mae’r UD yn dal yn farchnad hynod o bwysig i Gymru, ac i weddill y DU.

Yn ystod fy nghenhadaeth fasnach i UDA yr wythnos ddiwethaf, roedd cynifer o’r busnesau cefais gwrdd â nhw yn ystyried y DU yn bont rhwng America ac Ewrop, ac yn ddewis cyntaf o ran partner masnachu.

Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle heddiw i drafod y cyfarfodydd cadarnhaol cefais yno, ac i drafod sut gallwn ni gymryd y camau cadarnhaol nesaf i greu mwy o gyfleoedd buddsoddi ac allforio i gwmnïau ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd.

Dywedodd Robert W Johnson, Llysgennad yr Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig:

Mae Cymru’n bartner pwysig i’r Unol Daleithiau.

Mae llawer iawn o fasnachu a buddsoddi rhyngom, sy’n newyddion gwych i weithwyr yng Nghymru ac yn America.

Er hynny mae llawer o botensial i ni wneud mwy o fusnes, a gyda’n gilydd rydyn ni am helpu mwy o gwmnïau groesi’r Iwerydd a dod o hyd i gyfleoedd newydd i lwyddo.

Cyhoeddwyd ar 22 February 2018