Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Aberdaugleddau wrth i Lywodraeth y DU osod allan eu cynlluniau porthladd rhydd i hybu’r economi
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad gyda’r nod o gyhoeddi porthladdoedd rhydd newydd ar ddiwedd 2021
Bu Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau heddiw i drafod yr ymgynghoriad porthladd rhydd a gafodd ei lansio heddiw (Dydd Llun 10 Chwefror) gan Lywodraeth y DU.
Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y broses o greu canolfannau cenedlaethol newydd ar gyfer menter a busnes a fydd yn cael eu hagor ar draws y DU. Disgwylir i’r canolfannau greu miloedd o swyddi, adfywio cymunedau a rhoi hwb i economi’r DU.
Bydd hyd at ddeg o borthladdoedd rhydd newydd yn cael eu hagor ar draws y DU wrth i Lywodraeth y DU geisio manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi yn sgil gadael yr UE.
Mae’r ymgynghoriad wedi lansio gyda’r nod o gyhoeddi lleoliadau’r ardaloedd newydd ar ddiwedd y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt fod ar agor i fusnesau yn 2021.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Bydd datblygiad y porthladdoedd rhydd yn creu canolfannau arloesol ar draws y DU gan gynhyrchu syniadau newydd mewn amryw o sectorau’r DU o gwsmeriaid i drafnidiaeth i ddatgarboneiddio.
Bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn creu cannoedd swyddi a hwyluso twf economaidd. Dyna pam rwyf yn annog busnesau i ymgysylltu a’n ymgynghoriad a’n helpu ni i ryddhau ein potensial o ran arloesi, buddsoddiant a thwf. Wrth weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau, byddwn yn sicrhau gall y DU gyfan deimlo’r manteision wrth i’r lywodraeth hon gyflawni yr hymrwymiadau yn ei maniffesto.
Meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Rishi Sunak:
Bydd y porthladdoedd rhydd yn rhyddhau potensial ein porthladdoedd hanesyddol balch a rhoi hwb i gymunedau ar draws y DU wrth i ni lefelu fyny. Bydd hyn yn denu busnesau newydd, lledaenu swyddi, buddsoddiadau a chyfleoedd i drefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad.
Mae hyn yn rhan o’n cenhadaeth fel gwlad sy’n edrych allan, sy’n hyrwyddo masnach rydd fyd-eang gyda phorthladdoedd rhydd sy’n gweithio i bawb yn y DU.
Bydd porthladdoedd rhydd yn cynnig cyfle cyffrous i’r tollau arloesol, trafnidiaeth a thechnolegau gwyrdd i gael eu treialu mewn amgylchiadau o dan reolaeth, cyn cael eu mabwysiadu’n ehangach mewn sectorau perthnasol o’r economi. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos mewn partneriaeth gyda’r gweinyddiaethau datganoledig fel gall holl genhedloedd y DU rhannu manteision y porthladdoedd rhydd.
Gall manteision model y porthladdoedd rhydd 2020 gynnwys:
-
Ni fydd y nwyddau a ddaw mewn i’r porthladdoedd rhydd yn denu tollau nes iddynt adael y porthladdoedd rhydd a mynd mewn i’r farchnad ddomestig.
-
Ni fydd toll yn daladwy os cânt eu hail-allforio.
-
Pan fydd deunyddiau crai yn cael eu mewnforio a’i phrosesu mewn i nwyddau terfynol, bydd tollau ond yn cael eu talu ar y nwyddau terfynol
-
Gall porthladdoedd rhydd gael eu lleoli yn fewndirol yn ogystal ag yn agos i borthladdoedd. Gall hyn leihau costau adleoli neu gostau buddsoddi ar gyfer safleoedd gweithgynhyrchu presennol ger porthladdoedd.
-
Ni fydd angen datganiad tollau llawn i symud nwyddau i mewn i borthladd rhydd. Bydd hyn yn arbed amser busnes a’i gwneud yn haws i fewnforio nwyddau.
-
Diwygiadau cynlluniau i helpu porthladdoedd môr i ddatblygu o fewn eu ffiniau a rhoi pŵer i gynghorau lleol i gymeradwyo prosiectau adeiladu lleol angenrheidiol
-
Agenda adfywio i godi’r ardaloedd lleol o amgylch y porthladdoedd rhydd
-
Amgylchiadau arloesol i dreialu technolegau newydd
-
Mentrau yn seiliedig ar her i feithrin partneriaethau rhwng porthladdoedd, busnesau ac arloeswyr
Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau treth gyda’r nod i:
-
gynyddu buddsoddiadau mewn seilwaith adeiladwaith a pheiriannau mewn porthladdoedd rhydd i godi cynhyrchiant
-
cymell ymchwil i ysgogi arloesedd mewn porthladdoedd rhydd
-
torri costau sy’n gysylltiedig â phrosesu nwyddau drwy borthladd
-
lleihau’r costau o gyflogi gweithwyr sy’n gweithio mewn safleoedd y porthladdoedd rhydd
Ni fydd safonau uchel y DU o ran diogelwch, hawliau gweithwyr a’r amgylchedd yn cael eu peryglu.
Pan fydd yr ymgynghoriad 10 wythnos yn cael ei gwblhau [link to condoc], bydd Llywodraeth y DU yn gwahodd porthladdoedd awyr, y môr a rheilffyrdd i gyflwyno cais am statws porthladdoedd rhydd ar sail gystadleuol.