Ysgrifennydd Cymru’n ymweld â Chanolfan Cynnal a Chadw British Airways
Heddiw, aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, y tu ôl i’r llenni yng Nghanolfan Cynnal a Chadw British Airways (BAMC) ym Maes Awyr Caerdydd.
Welsh Secretary visits British Airways Maintenance Centre
Yr wythnos hon mae Mr Jones yn nodi’r cyfraniad pwysig y mae’r sector hedfan yn ei wneud i economi Cymru cyn iddo ymweld â Sioe Awyr Ryngwladol Paris (dydd Iau 20 Mehefin).
Cyfarfu’r Ysgrifennydd Gwladol â Bill Kelly, Rheolwr Cyffredinol Gwaith Cynnal a Chadw Trwm, British Airways Engineering, a chafodd ei dywys ganddo ar daith o amgylch y sied awyrennau tri-bae a’r gweithdai ategol. Yna, fe wnaeth gwrdd â gweithwyr sydd ar brentisiaeth yno ar hyn o bryd.
Mae BAMC yn wasanaeth penodol ac yn gyfleuster cynnal a chadw ar gyfer fflyd British Airways o awyrennau Boeing 747, 777 a’r awyren teithiau hir, y 767. Mae’n gyfrifol am holl waith cynnal a chadw ac atgyweirio’r fflyd gyfan fwy neu lai.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r diwydiant awyrofod yn un o’n diwydiannau gweithgynhyrchu pwysicaf, gyda Phrydain yn arwain y ffordd yn Ewrop. Mae’r sector yn cyfrannu cyfanswm anferthol o £24 biliwn i’r economi bob blwyddyn, mae’n cynnwys 3,000 o gwmnïau ac yn cefnogi 230,000 o swyddi ledled y wlad.
Mae Cymru, a’i gweithlu hynod fedrus, eisoes yn chwarae rôl bwysig yn y llwyddiant hwn, ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i gwrdd â’r rheini sy’n cyfrannu at y diwydiant pwysig hwn heddiw.
BAMC yw unig gyflenwr gwasanaethau cynnal a chadw trwm ar gyfer y fflyd teithiau pell British Airways, ac mae’n cael ei gefnogi yn y rôl hon gan ei chwaer gwmnïau: British Airways Avionics Engineering Ltd yn Llantrisant a British Airways Interiors Engineering Ltd yn y Coed Duon.
Dywedodd Bill Kelly, Rheolwr Cyffredinol Gwaith Cynnal a Chadw Trwm, British Airways Engineering:
Rydym yn hynod falch o’n gwaith peirianneg yn Ne Cymru. Rydyn ni’n cyflogi dros 1,400 o bobl hynod fedrus mewn tri chyfleuster o safon fyd-eang, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant parhaus y sector hedfan yn y rhanbarth.
Yn nes ymlaen yr wythnos hon, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd â chwmnïau hedfan mawr sydd â chysylltiadau cryf â Chymru yn Sioe Awyr Ryngwladol Paris, gan gynnwys y cwmni o Frychdyn, Airbus.
Bydd British Airways yn derbyn ei Airbus A380 cyntaf ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn y sioe awyr.