Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn rhoi teyrnged i gyfraniad ac ymrwymiad cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, a’r personel milwrol …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn rhoi teyrnged i gyfraniad ac ymrwymiad cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, a’r personel milwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd (30 Mehefin 2012). 

Disgwylir i gannoedd o wylwyr ddathlu’r achlysur yn y brifddinas. Bydd y dathliadau’n cynnwys arddangosiadau awyr arbennig gan dim y Falcons a Dakota yr Awyrlu Prydeinig, ynghyd a gorymdaith draddodiadol y cyn-aelodau a Gwasanaeth Pen Drwm.

Bydd dathliadau 2012 hefyd yn nodi 30 mlynedd ers rhyfel Ynysoedd Falkland, y bu i’r Gwarchodlu Cymreig chwarae rhan flaenllaw ynddo.  Bydd hefyd yn nodi 60 mlynedd ers i Gatrawd Frenhinol Cymru fod yn rhan o Ryfel Korea.

Ddoe, gwnaeth Mrs Gillan recordio neges o gefnogaeth ar gyfer y milwyr yn ystod ymweliad a Gwasanaethau Darlledu’r Lluoedd Prydeinig (BFBS) yn ei safle darlledu yn Chalfont Grove, Swydd Buckingham.

Gan siarad cyn dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, dywedodd:

“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn caniatau i bobl ystyried cyfraniad pawb sydd yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, yn Lluoedd Milwrol Prydain, a rhoi teyrnged iddynt.

“Yng Nghymru, mae gennym gysylltiad arbennig a’n Lluoedd Arfog, ac mae ein dyled yn fawr i’r rheini sy’n gweithio’n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau anodd, i amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw. 

“Cefais gyfle ardderchog i ymweld a HMS Dragon - un o chwech o Longau Distryw Math 45 sydd wedi cael eu creu’n ddiweddar ar gyfer y Llynges Frenhinol - pan oedd wedi docio yng Nghaerdydd ym mis Mawrth yn gynharach eleni. Roedd yn fraint cael bod ar fwrdd un o longau distryw amlbwrpas mwyaf a mwyaf pwerus ac effeithiol y byd.

“Mae baner Diwrnod Lluoedd Arfog Prydain eisoes yn chwifio’n falch uwchben Tŷ Gwydyr yn Whitehall i ddangos ein cefnogaeth a’n diolch, ac rwy’n falch o gael y cyfle i fod yma yng Nghaerdydd i gyfarfod a rhai o’r bobl ysbrydoledig hyn, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn ymuno yn y digwyddiadau a’r dathliadau sy’n cael eu cynnal.”

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael yn www.armedforcesday.org.uk

Neges Ysgrifennydd Cymru i’r milwyr ar Wasanaeth Darlledu’r Lluoedd Prydeinig (BFBS)

“Wrth i ni ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog, roeddwn am fynegi fy niolch personol am eich cyfraniad a’ch ymrwymiad di-ildio bob dydd er mwyn amddiffyn ein gwerthoedd, ein diogelwch a’n ffordd o fyw.

“Mae ein dyled yn fawr i chi am yr aberth personol rydych yn ei wneud ac am y pwysau a’r straen rydych chi a’ch teuluoedd yn ei ddioddef ar ein rhan.

“Yng Nghymru, mae gennym gysylltiad arbennig a’r Lluoedd Arfog. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno a dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd yfory, lle bydd cyfle i bob un ohonom ystyried cyfraniad y rheini sydd yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, yn Lluoedd Milwrol Prydain, a rhoi teyrnged iddynt.

“Mae pawb yn cydnabod eich ymrwymiad, ac ar ran Cymru, ac ar ran pawb sy’n dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ledled y DU dros y penwythnos, hoffwn ddweud fy mod yn meddwl amdanoch ac yn gweddio drosoch ac yn dymuno’n dda i chi a’ch teuluoedd.”

Cyhoeddwyd ar 30 June 2012