Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Mae’r Gyllideb hon yn Deg ac yn Gefnogol i Gymru

Heddiw, 21 Mawrth, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu Datganiad Cyllideb y Canghellor, a fydd yn parhau i gefnogi teuluoedd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 21 Mawrth, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu Datganiad Cyllideb y Canghellor, a fydd yn parhau i gefnogi teuluoedd a busnesau yn ogystal a sefydlogi’r economi a chefnogi twf economaidd hirdymor.

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys heddiw y bydd Llywodraeth y DU yn codi’r lwfans treth personol £1,100, gan gynyddu’r swm y gall unigolyn ei ennill cyn talu treth i £9,205. Yng Nghymru, bydd hyn yn golygu na fydd 42,000 o bobl yn ychwanegol yn talu treth incwm a bydd 1.1m o unigolion yn elwa. Golyga hyn nad yw 95,000 o bobl yng Nghymru yn gorfod talu treth incwm ers pan ddaeth y Glymblaid i rym.

Tynnodd y Gyllideb sylw at gynlluniau i godi’r trothwy unigol ar gyfer Budd-dal Plant i £50,000, sy’n golygu y bydd 21,000 o gartrefi’n elwa yng Nghymru. Bydd prif gyfradd y dreth gorfforaeth hefyd yn gostwng un y cant i 24 y cant y flwyddyn i 22 y cant yn 2014, sy’n golygu mai dyma’r mwyaf cystadleuol yn y G7. Dywedodd Mrs Gillan: “Bydd y Gyllideb heddiw’n cael effaith deg a chadarnhaol ar Gymru, gan dargedu’r rheini sydd mewn angen a chynnal ymrwymiad y Glymblaid i greu system dreth decach i gefnogi twf.

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod Cymru wedi sicrhau cyllid o £11.7 miliwn yn ychwanegol, tra bo gweddill y DU yn aros ar yr un lefel, gan ddod a chyfanswm yr adnoddau ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru ers iddynt ddod i rym i bron i £500 miliwn.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cyllid a chymorth i Lywodraeth Cymru i greu ardaloedd menter cryf yng Nghymru, gan sicrhau bod lwfansau cyfalaf uwch ar gael, gan gychwyn a Glannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Bydd hyn yn cefnogi twf, yn creu swyddi ac yn sicrhau bod cyllid ar gael i fuddsoddi mewn peiriannau o 1 Ebrill 2012. Yn amodol ar dderbyn achosion busnes cryf a chadarn gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn ceisio cytuno ar gyllid ar gyfer safleoedd ychwanegol yng Nghymru.

“Mae’r Glymblaid hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried trydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd Caerdydd yn nes ymlaen eleni, gan helpu i ostwng costau gweithredu a gwella gwasanaethau.

“Mae Cyllid o hyd at £12 miliwn wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect band eang sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi - ‘dinas cysylltiadau cyflym’ Caerdydd - lle bydd hyd at 142,000 o drigolion a 10,000 o fusnesau yn elwa. Cyhoeddwyd hefyd bod cyllid o £50 miliwn yn ychwanegol ar gael i ariannu ail don o 10 dinas cysylltiadau cyflym, y gall dinasoedd yng Nghymru fel Abertawe a Chasnewydd wneud cais amdano.

“Gan fod gan Gymru sector diwydiannau creadigol cryf, rwyf hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad ynghylch gostyngiadau yn y dreth gorfforaeth ar gyfer gemau fideo, animeiddio a’r diwydiannau teledu uwch.”

Nodyn i Olygyddion

1. **Rydym yn cyflwyno TAW ar gyfradd ostyngol o 5 y cant, a fydd yn berthnasol i systemau cludiant bychan a weithredir a cheblau yn y DU, gan gynnwys Llandudno.**

  1. Er mwyn gwella’r rhwydweithiau telegyfathrebiadau symudol mewn mannau drwg ar gyfer ffonau symudol, rydym yn buddsoddi £150 miliwn ledled y DU, a fydd yn cynnwys yr A470 (T) rhwng Llandudno a Chaerdydd.

  2. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi derbyn argymhelliad y Comisiwn Cyflogau Isel i gael codiad is na chwyddiant yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, diogelu enillion gweithwyr sydd ar gyflogau isel a chefnogi gweithwyr a helpu i ddiogelu swyddi yng Nghymru (lle mae’r Comisiwn Cyflogau Isel yn amcangyfrif bod dros 70,000 o swyddi isafswm cyflog).

I gael rhagor y wybodaeth am gyhoeddiad y Canghellor, ewch i: http://www.hm-treasury.gov.uk/

Cyhoeddwyd ar 21 March 2012