Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n dweud wrth arweinwyr busnes am ‘fanteisio ar fargen y Rhanbarth’

Heddiw (dydd Gwener 14eg Gorffennaf) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrth arweinwyr busnes Abertawe mai nawr yw’r amser i fanteisio ar Fargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe.

Yn cyflwyno ei brif anerchiad cyntaf yng Ngorllewin Cymru ers yr Etholiad Cyffredinol, yng Nghlwb Busnes Abertawe, bydd Alun Cairns yn canmol busnesau am eu rôl mewn creu cyfraddau diweithdra is nag erioed yn y rhanbarth ac yn eu herio i ddefnyddio bargen y Rhanbarth Dinesig fel cyfrwng i greu twf economaidd cynyddol.

Bydd Mr Cairns yn dweud:

Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i greu’r amodau cywir ar gyfer economi ffyniannus a llwyddiannus ond y sector preifat sy’n cymryd risg ac yn sbarduno’r llwyddiant hwnnw. Mae Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe’n gyfle gwych i arweinwyr busnes elwa a sicrhau manteision tymor hir. Mae’r fargen yn esiampl wych o Lywodraeth y DU yn cydweithio ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat i greu cynllun lleol a fydd yn cael effaith eang iawn.

Tyfodd economi Cymru 2.8% yn ystod 2015, ail yn unig i’r Gogledd Orllewin ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU, ac ers 2010 dim ond yn Llundain mae’r twf wedi bod yn fwy nag yng Nghymru.

Bydd Mr Cairns yn mynd ymlaen i roi sicrwydd i’r arweinwyr busnes yn yr ystafell y bydd Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd wrth i ni adael yr UE, drwy Fil Ymadael yr UE.

Bydd Mr Cairns yn dweud:

Rydyn ni’n gwbl ymwybodol o raddfa’r her sydd o’n blaen ar hyn o bryd wrth i ni baratoi ar gyfer y trafodaethau i adael yr UE. Rydw i yma i gadarnhau bod y Bil Diddymu, a gyflwynwyd ddoe, yn ymwneud â chreu sicrwydd a chysondeb busnes ledled Cymru, a rhoi sicrwydd na fydd y DU yn wynebu newidiadau annisgwyl ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE.

Dyma Lywodraeth sydd wedi bod yn gwrando ar fusnesau ac sy’n clywed eu hangen am sicrwydd. Rydw i eisiau eu sicrhau bod eu budd hwy’n hollbwysig i ni ac y byddwn yn parhau i werthu Cymru ym mhob cwr o’r byd.

Nodiadau i olygyddion:

  • Ddoe (dydd Iau 13 Gorffennaf) cyflwynodd y Llywodraeth Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy’n cael ei adnabod fel y Bil Diddymu, i’r Senedd. Mae’r Bil yn paratoi’r llyfr statud ar gyfer yr adeg pan fyddwn yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac mae’n gwireddu ein haddewid i roi diwedd ar awdurdod cyfraith yr UE yn y DU. Mae’n rhoi’r sicrwydd cyfreithiol a gweinyddol gorau posib i fusnesau, y sector cyhoeddus a phawb ledled y DU.
Cyhoeddwyd ar 17 July 2017