Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar benodiad Prif Weinidog Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn llongyfarch Prif Weinidog newydd Cymru.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth ar ddod yn Brif Weinidog newydd Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Rwyf eisiau llongyfarch Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, a phawb sydd wedi’u hethol i’r Senedd wythnos diwethaf.

Bydd cyhoedd Cymru yn disgwyl gweld eu dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â chostau byw, gwella gwasanaethau cyhoeddus, creu swyddi a sbarduno twf economaidd.

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rwy’n edrych ymlaen at weithio’n gynhyrchiol gyda’r Llywodraeth Cymru newydd i gyflawni er budd pobl Cymru.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Mai 2026