Datganiad i'r wasg

Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl cyfarafod Stryd Downing ynghylch dur heddiw

Alun Cairns: 'Cyfarfod adeiladol gyda'r Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru'

Datganiad gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar ôl y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog, y Canghellor, yr Ysgrifennydd Busnes a Phrif Weinidog Cymru ynghylch dur yn Stryd Downing y bore yma:

Dywedodd Alun Cairns:

Roedd yn gyfarfod adeiladol gyda’r Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru. Roedd pawb yn cytuno pa mor bwysig yw gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau prynwr ar gyfer y gwaith ym Mhort Talbot. Roedd hyn yn adeiladu eto ar gyfarfodydd blaenorol y mae’r Prif Weinidog wedi’u cadeirio ar ddur.

Mae gan Lywodraeth y DU berthynas waith gadarnhaol â Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol cadarn i’r gwaith ac yn rhoi diwedd ar yr ansicrwydd y mae’r gweithwyr a’u teuluoedd yn ei wynebu.

Cyhoeddwyd ar 5 April 2016