Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn rhoi cychwyn ar Wythnos Twristiaeth Cymru

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn dathlu cychwyn Wythnos Twristiaeth Cymru (27 Chwefror - 4 Mawrth 2012) gydag ymweliadau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn dathlu cychwyn Wythnos Twristiaeth Cymru (27 Chwefror - 4 Mawrth 2012) gydag ymweliadau a dau o gyrchfannau twristiaeth mwyaf poblogaidd y wlad.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gynnal ei dathliad unigryw ei hun i ddangos y rhanbarth fel cyrchfan ysbrydoledig i dwristiaid, ac i ddwyn sylw at yr arwyddocad economaidd posibl ar gyfer y dyfodol.

A chan fod y thema ar gyfer 2012 yn canolbwyntio ar atyniadau a gweithgareddau, manteisiodd Ysgrifennydd Cymru ar y cyfle i ymweld a dau gyrchfan sy’n parhau i ddenu ymwelwyr o’r DU a thu hwnt yn eu miloedd, flwyddyn ar ol blwyddyn.

I ddechrau, ymwelodd Mrs Gillan a’r Firing Line, Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd. A hithau wedi’i lleoli yn y Ganolfan Ddehongli newydd y tu mewn i diroedd y Castell, mae’r amgueddfa’n lletya 300 mlynedd o hanes Catrawd Frenhinol Cymru a Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.

Cafodd Mrs Gillan ei thywys ar daith o gwmpas yr arddangosfeydd lliwgar a chael gwybod am eu harwyddocad hanesyddol gan guradur yr amgueddfa, Rachel Silverson a’r cyfarwyddwr, Christopher Dale.

Yn y prynhawn ymwelodd a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Gyda’r ardd wedi’i hagor ym mis Mai 2000, mae’n dal yn rhan bwysig o’r seilwaith twristiaeth yng Nghymru ac yn ganolfan allweddol ar gyfer ymchwil botanegol.

Ym mis Medi 2011, cafodd yr ardd wahoddiad i gynrychioli’r DU yn un o ddigwyddiadau garddio mwyaf y byd - 8fed Arddangosfa Gerddi Rhyngwladol Tsieina yn Chongquing. Fel rhan o ddathliadau Wythnos Twristiaeth Cymru, maen nhw wedi cael eu gwahodd yn ol Tsieina i gyflwyno arddangosfa arwyddocaol ar eu gwaith codau bar a DNA.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Mrs Gillan daith o gwmpas yr ardd a’r warchodfa natur genedlaethol gan y Pennaeth Datblygu, Rob Thomas. Cyfarfu hefyd a rhai o’r staff allweddol a roddodd gipolwg unigryw iddi ar y casgliadau botanegol, y rhaglenni addysg a’r gwaith cyson i ymgysylltu a’r cyhoedd, a’r rhain i gyd yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a’r ardal.

Gan siarad ar ol yr ymweliadau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru:

“Yng Nghymru, mae gennym nifer o atyniadau gwych ar garreg ein drws ac, yn 2012, mae gennym gyfle unigryw i ddangos y rhain i’r byd.

” Mae Llwybr Arfordir Cymru gyfan a fydd yn cael ei agor yn y man - sef y llwybr ffurfiol cyntaf o’i fath i ymestyn ar hyd holl arfordir gwlad - eisoes yn cael sylw  ledled y byd ar ol iddi gael ei dewis yn rhanbarth orau’r byd yn nheithlyfr Lonely Planet 2012.”

“Mae angen inni hefyd harneisio pŵer yr holl ddigwyddiadau diwylliannol pwysig eraill ar y calendr, megis y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a Jiwbili Diemwnt y Frenhines, a’u defnyddio i sicrhau bod twristiaid yn dewis Cymru fel cyrchfan.

“Mae twristiaeth yn sector allweddol yn nhwf economaidd Cymru. Yn 2010, cafodd 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos eu denu i’n gwlad, gan gyfrannu bron i £1.8 biliwn i’r economi. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud mai ei obaith ef yw gweld y DU yn un o bum brif gyrchfan twristiaeth y byd. Gall atyniadau twristiaeth Cymru chwarae rhan allweddol er mwyn ein helpu i wireddu’r uchelgais hon a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i yrru hyn yn ei flaen.”

Cyhoeddwyd ar 27 February 2012