Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn nodi cychwyn haf ‘MAWR’ i Brydain Fawr wrth ddathlu’r cysylltiadau rhwng Prydain a Gwlad Thai yn Ne Ddwyrain Asia

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar daith 5 diwrnod i Dde Ddwyrain Asia, sy’n cychwyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar daith 5 diwrnod i Dde Ddwyrain Asia, sy’n cychwyn heddiw [14 Mai].

Cheryl Gillan fydd y Gweinidog Cabinet Cyntaf o’r Llywodraeth Glymblaid i ymweld a Gwlad Thai, gan danlinellu pwysigrwydd cynnal cysylltiadau cryf o ran masnach a thwristiaeth yn ogystal a chysylltiadau diplomyddol cryf gyda Gwlad Thai a gwledydd eraill sy’n datblygu.  Bydd yn ymweld a Cambodia a Singapor yn ystod ei thaith 5-diwrnod hefyd.  

Dechreuodd Mrs Gillan ei thaith o amgylch y rhanbarth drwy weld Trysorlys Gwlad Thai a’r Bathdy Brenhinol, a enillodd dendr i ddarparu 500 miliwn o ddarnau arian 1 Baht (plat nicel), yn llofnodi contract gwerth $10m. Mae’r contract werth £6m (300m Baht Thai) o refeniw gwerthiannau i’r Bathdy Brenhinol.

Hefyd, bu Mrs Gillan mewn digwyddiad rhwydweithio busnes VisitBritain, lle traddododd y brif araith i 200 o sefydliadau a busnesau masnach a theithio rhyngwladol, gan dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau o Wlad Thai sy’n ystyried buddsoddi yn y DU.

Mae ymweliad cyntaf yr Ysgrifennydd Gwladol a Gwlad Thai yn dilyn ymweliad cynharach gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor a De Ddwyrain Asia, sy’n tanlinellu ymrwymiad parhaus y DU o weithio gyda’r rhanbarth i hybu cyfleoedd masnachu a buddsoddi.

Gyda’r DU yn paratoi ar gyfer Haf ‘MAWR’ ym Mhrydain gyda dathliadau’r Jiwbili, y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd, cafodd Mrs Gillan gyfarfod a menywod sy’n ASau, yn aelodau o’r Llywodraeth a’r wrthblaid heddiw i gyfnewid safbwyntiau a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch rol menywod mewn gwleidyddiaeth, democratiaeth a chysoni cenedlaethol.  

Bydd Mrs Gillan yn ymweld a Chanolfan Addysgu’r Cyngor Prydeinig yfory. Ym mis Mai 2009/10 llwyddodd y ganolfan i helpu 17,924 o bobl sefyll arholiadau Saesneg gyda’r Cyngor Prydeinig ac mae’n bwriadu sefydlu 10 o gysylltiadau academaidd pellach gyda Phrydain yn 2012. Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a Phencadlys Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Gwlad Thai lle bydd UKBA yn casglu gwybodaeth biometrig gan oddeutu 50 o athletwyr, newyddiadurwyr ac aelodau eraill o ddirprwyaeth Olympaidd Gwlad Thai. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyfarfod a’r ddirprwyaeth i drafod paratoadau’r DU ar gyfer y Gemau Olympaidd, cyn mynd i dderbyniad gyda’r nos gyda Chymdeithas Dewi Sant Bangkok.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Drwy lofnodi del sy’n garreg filltir heddiw, rhwng Trysorlys Gwlad Thai a’r Bathdy Brenhinol yng Nghymru, rydyn ni wedi cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad eto fyth. Mae’r ddel hon yn newyddion gwych i Brydain, ac mae o bwys arbennig i mi fel yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y darnau dur plat nicel aRMour™ a ddefnyddir i wneud darnau arian Gwlad Thai yn cael eu darparu gan y Bathdy Brenhinol, yn Llantrisant, De Cymru.

Bydd y Jiwbili Diemwnt, y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn llwyfan i’r DU ddangos i’r byd i gyd beth sydd mor wych amdani, a’r haf hwn, rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer o bobl yn manteisio ar y cyfle hwn i ymweld a’r DU, buddsoddi yn y DU neu astudio yn y DU.  

“Mae’r ymgyrch hon yn atgoffa pawb o bob cwr o’r byd am yr effaith y mae Prydain wedi’i chael yn fyd-eang, ac rwy’n falch o fod yn cynrychioli Llywodraeth y DU yn Ne Ddwyrain Asia.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Bathdy Brenhinol wedi’i leoli yn Llantrisant, De Cymru.   Agorodd y Frenhines y Bathdy Brenhinol yn 1968 yn barod ar gyfer cyflwyno arian degol, ac mae dros 900 o bobl cael eu cyflogi gan ei bencadlys.  
  • Enillodd y Bathdy Brenhinol dendr am 500 miliwn o ddarnau arian 1 Baht (plat nicel) ar 5 Ebrill 2012, sydd werth £6m o refeniw gwerthiant i’r Bathdy Brenhinol. Bydd y darnau arian yn cael eu ffurfio’n ddarnau 1 Baht gan Fathdy Brenhinol Gwlad Thai, yn Bangkok.
  • Mae gan y Bathdy Brenhinol gontract i fathu medalau’r enillwyr ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yr haf hwn. **
  • Agorodd Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus George Osborne, AS ddau gyfleuster cynhyrchu platiau nicel yn y Bathdy Brenhinol ym mis Mawrth 2011. Mae’r cyfleusterau newydd yn defnyddio technoleg aRMour a all arwain at arbedion sylweddol i fanciau canolog, awdurdodau perthnasol a llywodraethau.  **
  •  Y Deyrnas Unedig yw prif fuddsoddwyr yr UE yng Ngwlad Thai ar hyn o bryd, gyda buddsoddiadau wedi’u cyfuno’n dod i gyfanswm o £1.7biliwn ar ddiwedd 2008 (ONS) a nwyddau wedi’u hallforio o’r DU i Wlad Thai yn werth £714m.
  • Mae cwmniau mawr y DU, fel Tesco a Boots wedi sefydlu eu gweithgareddau tramor mwyaf yng Ngwlad Thai.
  • Mae dros 50,000 o Brydeinwyr yn byw yng Ngwlad Thai.
Cyhoeddwyd ar 14 May 2012