Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dangos ei chefnogaeth ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, yn atgoffa pobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog eleni, a gynhelir ddydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, yn atgoffa pobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn, 25 Mehefin.

Yn dilyn llwyddiant prif ddigwyddiad y DU y llynedd yng Nghaerdydd, roedd Mrs Gillan yn anfon ei dymuniadau gorau i Gaeredin a fydd yn cynnal y dathliadau eleni.

Dywedodd Mrs Gillan: “Roedd Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol gyda’r dathliadau y llynedd, a chefais gyfle i’w gwylio ochr yn ochr a’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, ac Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.  Gwn y bydd trefnwyr eleni yn parhau i anrhydeddu’r digwyddiad blynyddol hwn, sy’n codi proffil ein dynion a’n menywod dewr sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol.

“Mae gennym gysylltiad arbennig a’n Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a’u balchder ar gyfer y milwyr, y morwyr a’r personel awyr sy’n aberthu cymaint dros eraill drwy wasanaethu ein gwlad.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cydnabod y cyfraniad sy’n cael ei wneud gan y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu Lluoedd Arfog Prydain.  Eleni bydd Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau lleol i nodi’r diwrnod a bydd baneri’r Lluoedd Arfog yn chwifio y tu allan i swyddfeydd awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael yn www.armedforcesday.org.uk

Cyhoeddwyd ar 26 May 2011