Ysgrifennydd Cymru yn cydymdeimlo â’r bobl a gafodd eu lladd yn Norwy
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymuno a channoedd o bobl i arwyddo’r Llyfr Cydymdeimlo yn Llysgenhadaeth Norwy, Llundain…
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymuno a channoedd o bobl i arwyddo’r Llyfr Cydymdeimlo yn Llysgenhadaeth Norwy, Llundain.
Dywedodd, “Mae digwyddiadau brawychus dydd Gwener 22ain Gorffennaf wedi dod a ni’n agosach fyth at ein ffrindiau yn Norwy. Rwy’n gweddio dros y bobl a gafodd eu hanafu, a theuluoedd y bobl a gafodd eu lladd. Safwn gyda chi fel un.
“Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a Norwy yn parhau i fod yn rhai cryf. Yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rydw i wedi llofnodi’r llyfr cydymdeimlo i atgyfnerthu’r cyfeillgarwch hir-sefydlog rhwng Cymru a Norwy.”