Ysgrifennydd Cymru yn estyn ei chydymdeimlad i Lysgennad Siapan
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ysgrifennu’n bersonol, ac ar ran pobl Cymru, at Lysgennad Siapan i fynegi ei chydymdeimlad…

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ysgrifennu’n bersonol, ac ar ran pobl Cymru, at Lysgennad Siapan i fynegi ei chydymdeimlad yn dilyn y daeargryn heddiw a’r tsunami a achoswyd ganddo.
Dywedodd Mrs Gillan fod effaith ddinistriol y trychineb naturiol ar Siapan a’i phobl yn sobor.
Gan fod Siapan yn gyflogwr allweddol yng Nghymru, dywedodd Mrs Gillan ei bod hi, a gweddill Cymru, yn meddwl ac yn gweddio dros Siapan yn dilyn y digwyddiad trasig hwn.
Dywedodd Mrs Gillan: “Â chalon drom y clywais y newyddion am y dinistr a achoswyd gan y trychineb naturiol hwn. Rydym yn meddwl am bobl Siapan ar yr adeg anodd hwn.”