Ysgrifennydd Cymru yn estyn ei chydymdeimlad yn dilyn y digwyddiad ym mhurfa olew Chevron yn Aberdaugleddau
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi anfon ei chydymdeimlad at deuluoedd a chydweithwyr y rhai a gollodd eu bywydau mor druenus yn dilyn…

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi anfon ei chydymdeimlad at deuluoedd a chydweithwyr y rhai a gollodd eu bywydau mor druenus yn dilyn y ffrwydrad ym mhurfa olew Chevron yn Aberdaugleddau.
Dywedodd Mrs Gillan: “Tristwch mawr i mi oedd clywed y newydd hwn a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deuluoedd a chydweithwyr y rhai a gollodd eu bywydau mor drasig. Mae’r rhai a anafwyd hefyd yn ein meddyliau.
“Rydym wedi bod mewn cysylltiad a Chevron ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac wedi gofyn iddynt sicrhau ein bod yn cael gwybod beth sy’n digwydd yng nghyswllt yr ymchwiliad i’r digwyddiad trist hwn. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn deall sut y digwyddodd y trasiedi.”