Ysgrifennydd Cymru yn gweld arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi gweld sut mae cyfleuster ymchwil feddygol sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol yn helpu cwmniau…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi gweld sut mae cyfleuster ymchwil feddygol sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol yn helpu cwmniau uchel eu proffil i ddatblygu’r gwasanaethau a’r cynnyrch meddygol diweddaraf.
Yn ystod ymweliad a’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gwelodd Mrs Gillan rywfaint o’r cynnyrch a ddatblygir gan gwmniau yn y Sefydliad. Roedd y rhain yn cynnwys cynnyrch wedi’u datblygu gan Boots at ddibenion lleddfu poen, trin y croen, diabetes a heneiddio’n iach.
Cyn mynd i’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd, cafodd Mrs Gillan gyfle i ymweld a gwaith dur Corus ym Mhort Talbot hefyd.
Meddai Mrs Gillan: “Mae mwy i’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd na datblygu’r cynnyrch meddygol diweddaraf. Mae hefyd yn ymwneud a chreu cyfoeth a swyddi ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny’n hwb derbyniol iawn i’r economi leol yn Ne Cymru.
“Mae’r cyfleusterau busnes ac ymchwil feddygol pwrpasol sydd ar gael yn y Sefydliad eisoes wedi denu cwmniau uchel eu proffil megis Boots. Rwy’n siŵr y bydd rhagor o gwmniau sy’n enwog drwy’r byd yn dod i Abertawe pan fydd datblygiad newydd y Sefydliad yn cael ei gwblhau yn ystod hydref 2011.
Ychwanegodd Mrs Gillan: “Heddiw, rwyf wedi gweld safle gweithgynhyrchu diwydiannol enfawr a rhai o’r datblygiadau meddygol diweddaraf - pob un ohonynt yn Ne Cymru. Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth sydd gennym yng Nghymru o safbwynt diwydiant a’r economi.
“Wrth weld cynnyrch uwch dechnoleg a blaengar iawn yn cael eu datblygu yn y Sefydliad Gwyddorau Bywyd, yn ogystal a’r gweithgynhyrchu trwm i lawr y lon ym Mhort Talbot, mae’n amlwg bod Cymru yn agor ei drysau i fusnes.”
Meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Roedd Prifysgol Abertawe yn falch iawn o groesawu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chael dangos gweithgarwch ymchwil-ddwys Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, sy’n cefnogi economi wybodaeth fodern De-orllewin Cymru.
“Yn ystod y daith, bu tim amlddisgyblaethol o ymchwilwyr yn amlinellu’r cynlluniau i uwchraddio ein gweithgareddau ymchwil yn ddramatig er mwyn creu un o’r prosiectau economi wybodaeth trawsffurfiol mwyaf yn Ewrop.”